Yr anifail nesaf a ganfyddwyd, a gai ei restru ar y ddaear hon fel anghenfil. Yr oedd o liw plwm lled-las, o gylch maintioli gafr, a chanddo ben a barf cyffelyb, a chanddo ddim ond un corn, yn gogwydd yn mlaen yn raddol o'i uniawnsythder Yr oedd y fenyw yn amddifad o'r corn, ond ei chynffon yn llawer hwy. Yr oeddynt yn finteioedd ar lannerchi goleu serthog yn mhlith y coedydd. Mewn taclusrwydd a moddion ei gorph, yr oedd mor foddgar a'r Antelope, ac fel hwnw yn greadur gwisgi a bywiog, gan redeg yn gyflym a neidio oddiar y glaswellt, yn chwareûs megys oen nen gath bach. Cawsom lawer o bleser wrth edrych ar y creadur prydferth hwn. Yr oedd ei ddull yn symud ac yn prancio i'w weled ar ein llian gwyn mor gywir ac eglur a phan y bo anifeiliaid o fewn ychydig latheni i'r Camera-obscura, pan yr ymddangosa ar ei lèn. Yn fynych pan fyddem yn ymgais i roddi ein bysedd ar ei farf, byddai yn neidio ymaith fel i ddiddymdra, megys pe buasai yn wybyddus o'n daearol hyfdra arno: ond ar hyny byddai eraill yn ymddangos, y rhai ni allem eu rhwystro i bori y llysiau, dywedem neu wnaem a fynem iddynt.
Wrth edrych a chwilio y dyffryn hyfryd hwn, gwelsom afon geingciog, yn llawn o ynysoedd dymunol, ac adar y dwfr o amrywiol fathau. Y rhai lliosocaf oedd math o belican llwydlas; ond yr oedd math o gryhyr du a gwyn, a chanddo goesau a phig anghyffredin o hirion, hefyd yn bur gyffredin. Gwyliasom eu pysgreibiawl arferion am hir amser, mewn gobaith o gael golwg ar bysgodyn lloerawl: ond er na chawsom ein dymuniad yn hyn, yr oeddym yn gallu barnu yn hawdd y dyben oedd ganddynt wrth suddo eu gyddfau hirion mor ddyfnion dan y dwfr. Yn agos i flaen uchaf un o'r ynysoedd hyn, cawsom gip-olwg ar greadur rhyfedd yn byw yn y dwfr ac ar y tir, (amphibious) o ddull cyfrgrwn, yr hwn a ymdreiglai yn gyflym ar draws y gro, a chollwyd golwg arno yn y chwyrn-ddwfr a ymdorai oddiwrth y gongl hon o'r ynys. Bu orfod arnom, pa fodd bynag, adael y dyffryn ffrwythlawn hwn heb ei chwilio, o herwydd y cymylau y rhai oeddynt yn amlwg ymgasglu yn awyrgylch y Lleuad, canys yr oedd ein hawyrgylch ni yn hollol glir ar yr amser. Yr oedd hyn ynddo ei hun yn ddatguddiad o bwys, oblegyd yr oedd y syllwyr blaenorol yn ameu neu yn gwadu hanfodiad awyrgylch llaith yn perthyn i'r blaned hon.
Ymddangosai casgliad gwychach o greaduriaid yn fuan.
"O'r diwedd manwl-chiwiliasom yr Endymion. Cawsom bob un o'r tri hir-grynion yn geudod-losgawl a diffrwyth o'u mewn; ond, y tu allan yn dra chyfoethog, drwy'r holl wastad-diroedd o'u hamgylch, o bob math o gynnyrch tiroedd breision. Rhestrodd y Dr. Herschel oddeutu 38 o rywiau o goed, ac yn agos i gymaint arall o rifedi o blanigion a gafwyd allan yn y fan hon yn unig, y rhai ydynt yn gwahaniaethu yn fawr oddiwrth y rhai a geir yn nes i linyn y gyhydedd. O'r anifeiliaid cafodd allan naw rhywogaeth o'r rhai a elwir mammalia, a phump o'r rhai a elwir oviparia. Yn mhlith y cyntaf y mae rhywogaeth fechan o'r carw, yr elk, y moose, yr arth corniog, a'r llostlydan, (beaver) dendroed. Y mae yr olaf yn debyg i lostlydan y ddaear yn mhob peth, ond ei fod yn ymddifad o gynffon, a'i harferiad dibaid o