Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynhanaf llwyddianus yn Chwefror 1884, ni weithiwyd ond ychydig ar y gamlas hyd ddechreu 1885, pan na chafwyd ond cynhauaf rhanol yn y dyffryn isaf o bob tu i'r afon. Penderfynwyd myned at y gamlas o ddifrif y flwyddyn hon. Yr oedd genym hen wely afon eto yr ochr hyn i'r afon, ae felly penderfynwyd agor y gamlas i fyny rhyw 50 milldir o'r môr, a'i harwain i afael yr hen wely uchod. Hon oedd y ffordd hawddaf i ddechreu, er fod yna lawer waith yn y blynyddoedd oedd i ddod i berffeithio yr hen wely hwn, weithiau trwy gryfhau manau gweiniaid yn y cenlenydd, ac weithiau trwy unioni mewn manan ereill. Erbyn byn yr oeddym wedi trefnu i gael math o farch—raw. Peiriant Americanaidd yw y march—raw, wedi ei ddyfeisio i symud pridd rhydd wedi ei aredig, gyda cheffylan yn ei weithio. Y mae yn cael ei weithio gan un dyn a dau geffyl, ac yn symud o bridd rhydd gymaint ag a wnelai deg a ddynion gyda rhaw fach, neu raw law. Nid oedd yr un o'r marchrawiau hyn yn y Wladfa, ond yr oeddym wedi clywed am danynt, ac wedi gweled eu lluniau mewn llyfrau. Boneddwr o'r enw T. S. Williams oedd y cyntaf— ffermwr egniol a medrus—efe oedd y cyntaf i wneud rhyw fath o efelychiad o'r rhaw hon, o ddefnyddiau cyffredin—coed, haiarn, a thin. Bob yn dipyn, cymerodd crefftwyr y lle y gwaith o wneud y rhawiau hyn mewn llaw, ac o'r diwedd llwyddwyd i gael y rhai "Americanaidd" i lawr o Buenos Ayres. Y mae yn glod i ysbryd anturiaethus y Wladfa Gymreig ein bod yn alluog i ddweyd, yn ol tystiolaeth ty masnachol pwysig yn Buenos Ayres, nad oedd dim un march—raw yn cael ei defnyddio yn Ne America ond yn y Wladfa Gymreig ar y Camwy. Gyda'r march—rawiau hyn yn benaf y torwyd camlas yr ochr Ddeheuol, a thrwy gydweithrediad ac yni tyddynwyr y ddau ddyffryn hyn yr ochr Ddeheuol, llwyddwyd i gael y gamlas i weithio y flwyddyn hon, a chafwyd cynhauaf toreithiog yn Chwefror 1886. Pan yn son cymaint am y camlesi, y mae yn naturiol i'r darllenydd ofyn pa fodd yr oedd yn gweithio y rhai hyn, hyny yw, pa gynllun oedd genym i gyd—ddwyn yn mlaen y gweithiau mawrion hyn. Wel, byddem yn galw cyfarfod cyhoeddus o'r holl dyddynwyr a fyddai yn debyg o fuddio oddiwrth y gamlas a amcenid ei hagor,