Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna pasio i ffurfio cwmni cyfyngedig, pendodi y sawd a'r rhaneion. Yna byddai pob un i gymeryd o raneion yn y gamlas yn ol ei allu i weithio, canys mewn gwaith yr oedd yn rhaid i bob un dalu ei raneion, ac nid mewn arian; ac os nad allai dyn weithio ei hun, yr oedd yn rhaid iddo edrych allan am rywun arall i wneud. Ÿr amcan wrth wneud y trefniadau i dalu y rhaneion yn y modd hwn oedd er sicrhau fod y gwaith yn cael ei wneud am fod llafur yn fwy prin nag arian, heblaw ei fod yn fwy uniongyrchol i'r pwrpas o gael y gamlas wedi ei hagor, a phawb i gael dwfr i'w dir. Nid oeddym y flwyddyn gyntaf na'r ail yn gallu gwneud y camlesi hyn yn orphenol a pherffaith, ond yr ydym wedi bod o adeg eu dechreuad yn eu perffeithio yn barhaus, ac nis gellir dweyd fod yr un o honynt hyd yn nod eto wedi ei gwneud yn orphenol, am fod rhyw welliantau angenrheidiol yn dod i'r golwg yn barhaus. Dyma ni yn awr yn y dyffryn uchaf yr ochr ogleddol, a'r ddau ddyffryn ar yr ochr Ddeheuol wedi gwneud camlesi, ac wedi llwddo i gael dwfr i'r rhan luosocaf o lawer o'r tyddynod yn yr ardaloedd hyn, ond yr oedd yma rai tyddynod yn ngwaelod y dyffrynoedd hyn, ac yn wir y mae nifer fechan hyd beddyw yn dyoddef yn awr ac eilwaith o herwydd prinder dwfr. Yr achos o'r dyoddef hyn yw, nad yw y gamlas yn ddigon mawr yn mhob man i gario cyflawnder o ddwfr pan fyddo feallai bron bawb yn gofyn am ddwfr yr un pryd, ac hefyd pan fyddo yr afon yn isel arghyffredin, nid oes digon o ddwfr yn dyfod i mewn yn ngenau y ffos, am nad ydyw yn ddigon dwfn i gyfarfod ag adegau eithriadol felly.

Caniataer i ni ddweyd gair eto yn nglyn a'r ochr ogleddol, sef y dyffryn isaf yn yr ochr hono i'r afon. Yr ydys wedi deall, y mae yn debyg, nad yw camlas y dyffryn uchaf eto yn dod i lawr trwy y lle cul, creigiog hwnw y buom yn son am dano, lle y mae pentref y Gaiman wedi ei adeiladu arno, ac felly nid yw yn gwasanaethu y dyffryn isaf. Fel y buom yn son o'r blaen, y mae gan dyddynwyr y dyffryn hwn gamlas, ond nid ydyw yn ddigon dwfn ond pan y mae codiad gweddol yn yr afon, ac felly ar rai blynyddoedd yn hollol sych, ac felly y dyffryn hwn yn colli ei gynhauaf. Cawn alw sylw at y rhanbarth hwn yn mhellach yn mlaen.