Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXVI.

Yr oedd corff mawr y sefydlwyr erbyn hyn yn teimlo fod y rhwystr mawr ydoedd ar ffordd eu llwyddiant wedi eu symud, ac felly yn teimlo yn fwy calonog ac anturiaethas. Wedi i ansicrwydd cael dwfr bob blwyddyn ddarfod, yr ydis yn gallu ymdaflu i weithio yn fwy egniol a gwastad ac yn gallu mentro cyflogi llafurwyr a thalu cyflogau da iddynt, a hau ar raddfa eang. Yr ydys hefyd yn gallu anturio i brynu offerynau amaethyddol gwell, a pheiriansu i weithio yn gynt ac i arbed llafur, fel y mae ambell i un yn hau can' erw o wenith, a'r cant hyny yn cynyrchu can' tynell o wenith, ac yn cynyrchu yn y farchnad rhwng pump a saith cant o bunau y pryd hwnw. Ond nid oedd masnach y lle yn foddhaus o gwbl. Yr oedd holl allforiad gwenith y lle yn llaw tri neu bedwar o fasnachwyr, y rhai hefyd a berchenogent y llongau oedd yn rhedeg cydrhyngom a Buenos Ayres. Yr oedd y masnachwyr hyn felly yn gallu rhedeg y llongau fel y mynent, a chodi y pris a fynent am gludo nwyddau neu wenith ynddynt. Yr oeddynt hefyd yn gallu rhoddi y y pris a welent hwy yn dda am y gwenith, a chodi pris a fynent am eu nwyddau eu hunain am nad oedd gan y gwladfawyr un lle i farchnata. Mae yn 'wir eu bod yn boddloni cario y gwenith yn eu llongau i Buenos Aires a chludo nwyddau i ninau i lawr, ond yr oeddynt yn gofalu cadw y fath bris am y cludiad fel yr oedd eich mantais chwi yn ngwerthiad y gwenith ac yn mhryniad y nwyddau rhad yn Buenos Aires yn myned i gyd, fel nad oeddych ond yn yr un man a phe buasech yn gwerthu ac yn prynu gyda hwy. Erbyn hyn, yr oedd pa fodd i gael masnach deg wedi dod yn brif bwnc y dydd ac yn destyn siarad yn mhob cynulliad o ddynion b'le bynag y cyfarfyddent. Yr oedd amryw ddyfeisiau yn cael eu cynyg. Yr oedd nifer fechan ya credu mewn cael rhyw gynllun i gael maanach a Lerpwl, ond yr anhawsder oedd cael llongau i alw yn ein porthladdoedd ni, am fod geneu yr afon yn rhy fas i longau mawrion i ddyfod i mewn iddi, ac yr oedd Porth Madryn ddeugain milldir oddiwrthym. Mae yn wir fod yn Porth Madryn angorfa ardderchog i unrhyw long beth bynag ydyw ei maint, ond y dyryswch yw pa fodd i