Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w gwneud. Cafodd y caniatad a'r rhodd uchod gan y Llywodraeth yn 1885, ae felly aeth yn ei flaen o Buenos Ayres i Gymru er treio gwerthu y rhoddiad hwn o eiddo y Llywodraeth i ryw sawdwyr yn Nghymru neu Lloegr er cael y ffordd haiarn i weithrediad. Wedi iddo deithio ac areithio llawer yma a thraw trwy ranau o Ogledd a De Cymru a rhanau o Loegr heb gael fawr llwyddiant, na llawer o glust i'r mater gan ei gydgenedl, o'r diwedd tarawodd with foneddwr o Sais o'r enw Mr. Bell, ac y mae yntau yn ymgymeryd a ffurfio cwmni, yn byr a wnaeth yn ddiymdroi, yr hwn a alwyd-"Cwmni Ffordd Haiarn Chubat." Boneddigion o Lerpwl yn benaf oedd ac ydynt aelodau y cwmni hwn, ac wedi ffuifio yu gwmni aethant ati ar unwaith i bartoi i ddyfod allan i wneud y gwaith. Gan nad oedd gweithwyr i'w cael yn y Camwy I weithio y ffordd hon, yr oedd yn rhaid, o ganlyniad, cael dynion allan o Gymru neu rywle i wneud y gwaith. Er mwyn cael gweithwyr ar unwaith cyhoeddodd y cwmni hwn yn Nghymru fod pob gweithiwr ddeuai allan i weithio y ffordd haiarn i gael ei gludiad allan am ddim a chyflog tra ar y ffordd, a chyflog dda tra daliau y gwaith, ae wedi gorphen fod i bob dyn mewn oed gael tyddyn o 248 erw yn rhad ac am ddim gan y Llywodraeth Archentaidd. Fel yr ydym eisoes wedi awgrymu, yr oedd tir y ddau ddyffryn mesuredig wedi ei gymeryd i gyd oddieithr nifer fechan o dyddynod israddol o ran gwerth eu tir, ac felly nid oedd modd i'r cwmni gyflawnu yr addewid hon yn nghylch y tir. Nid ydym yn cyhuddo y cwmni o dwyllo yn fwriadol, ond mae yn ddiamen ei fod wedi bod yn rhy hyf i gyhoeddi addewidion yn nglyn a'r tir cyn ymgynghori digon a'r Llywodraeth yn nghylch y peth. Yn Gorphenaf, yr 28ain, 1886, daeth i Porth Madryn long o'r enw Vista gyda phum cant o ddyfudwyr yn nghyd a darpariaethau tuag at weithio y ffordd haiarn a dan arolygaeth y Mr. Bell y cyfeiriasom ato yn barod. Wedi i'r dyfudwyr hyn aros ychydig yn y lle a deall nad oedd yma dir fel y cyhoeddwyd bu cryn anfoddlonrwydd a grwgnach yn eu plith. Mae yn wir fod yn nhiriogaeth y Camwy gyflawnder o dir i'w gael, ond ei fod yn rhy bell i fyny yn y wlad fel na fuasai modd i'r sefydlwyr ddyfod a'u cynyrch i afael marchnad a gwneud iddo dalu. Buwyd yn hwy yn gwneud y ffordd hon nag y bwriadwyd