Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peth a ffurfiasant yn gwmni. Tynwyd allan math o gyfansoddiad bychan iddo, ae yna galwyd am randdalwyr. Amcan y cwmni hwn oedd llogi llongau, prynu a gwerthu gwenith a chynyrchion ereill y Sefydliad, a masnachu yn mhob nwyddau angenrheidiol yn gyfanwerth a manwerth, a rhanu yr elw yn flynyddol ar y pryniadau. Anfonwyd cynrychiolydd i fyny i Buenos Ayres i edrych am long i ddyfod i lawr i ymofyn gwenith, a chytuno a dirprwywr masnachol yno i werthu a phrynu dros y cwmni, yr hyn a wnaeth yn ddiymdroi. Penodwyd Cymro o'r enw D. M. Davies, brodor o Castellnedd, Deheudir Cymru, yn ddirprwywr, yr hwn sydd wedi dal y swydd yn anrhydeddus hyd heddyw. Yr oedd aelodau y cwmni hwn wedi cario i lawr i Rawson lawer o wenith i fod yn barod erbyn dyfodiad y llong i'w ymofyn, ac ereill yn barod, ar ddiwrnod o rybudd i wneud yr un peth. Daeth y long i lawr ac yr oeddid wedi trefnu fod dwy ereill i ddilyn yn olynol fel y buasai y galwad. Felly, gwnaed dechreuad llwyddianus dros ben i'r mudiad hwn, canys cludwyd ymaith yn y llongau hyn y gwenith a'r haidd, a phob cynyrch arall oedd farchnadol yn Buenos Ayres mewn ychydig fisoedd, y rhai oeddynt o'r blaen yn gorwedd yn farw yn y lle. Cafwyd prisiau da yn Buenos Ayres am yr holl gynyrchion, a dygwyd i lawr yn gyfnewid lawer iawn o nwyddau yn rhatach lawer nag yr arferent a bod. Goruchwyliwr eyntaf y cwmni hwn oedd Mr. T. T. Awstin, genedigol o Merthyr Tydfil, ond a ddaethai allan gyda'r fintai gyntaf yn blentyn amddifad, yr hwn a weithiodd yn egniol a chanmoladwy ar gychwyniad y cwmni. Yr oedd y camlesi wedi dwyn i mewn yni uchelgais i hau a chodi llawer o wenith, ond yr oedd gorfod ei gadw am fisoedd yn y lle trwy fethu ei yra i'r farchnad ac hyd y nod wedi ei yru yn cael mor lleied am dano, yn peru diflasdod mawr. Er fod rhai yn codi llawnder mawr o yd, gan eu bod yn gorfod ei werthu i'r masnachwyr yn y lle, a chymeryd nwyddau am dano, nid oedd fawr neb yn gallu cael nemawr o arian, ond pan ddechrenodd y cwmni hwn, daeth pobl i gael arian am eu eynyrchion ac felly yn gallu rhoi tipyn o'r neilldu, ac nid byw ar gael ymborth a dillad yn unig. Erbyn hyn byddai ambell i un yn anfon haner cant neu dri ugain tynell o wenith i Buenos Ayres, ac yn cael yn ol am dano