Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dri neu bedwar cant o bunau, ac fel y dywed y Llyfr,- "Yr hwn a garo arian ni ddigonir âg arian," ac felly y bu gyda ninau, fel y mae yn ein plith hyd heddyw, rai yn casglu yn barhaus. Fel y gellir tybied, parodd y symudiad hwn golled fawr i'r cyn-fasnachwyr. Yr oeddynt yn ddiau yn haeddu cerydd am eu cribddeiliaeth, ond eto, ymddygodd rhai atynt yn rhy wael os nad yn anonest trwy uno a'r cwmni newydd a chludo eu gwenith iddo cyn talu eu dyledion i'r masnachwyr, canys ar bwy bynag y cafodd y masnachwyr hyn fantais, y mae yn bur amlwg nad oes neb wedi cael fawr fantais erioed ar y rhai na bydd yn talu eu dyledion. Yr ydym oll fel Sefydliad yn gyffredinol erbyn hyn yn bur galonogol ond y dyffryn isaf, yr ochr Ogleddol. Mae y rhanbarth hwn eto heb gael modd i gael dwfr parhaus a chyson. Tua chanol y dyffryn hwn yr oedd gorsaf y ffordd haiarn, ac felly y dyffryn hwn oedd fwyaf cyfleus i gludo eu gwenith i fyned gyda'r ffordd haiarn i'r porthladd, ac felly penderfynodd cwmni y ffordd haiarn wneud argae i ddyfrio y dyffryn hwn. Cytunwyd fod cwmni ffordd haiarn i roi y defnyddiau (argae goed ydoedd) a bod y tyddynwyr i roi y gwaith oedd o fewn cylch eu medr hwy. Cyn bod yr argae hon eto wedi eu hollol orphen, llwyddodd y dwfr i weithio ei ffordd heibio un ochr iddi, ac felly aeth yn hollol ofer, er fod yma werth canoedd o bunau o goed a haiarn ynddi heblaw misoedd o lafur caled i'r tyddynwyr. Gwnaed ail a thrydydd gynyg i adgyweirio yr argae hon, ond bob tro yn aflwyddianus fel y gadawyd y dyffryn hwn yn niwedd y cyfnod y soniwn am dano heb un ffordd sicr a cbyson i ddyfrhau y tyddynod.

PENOD XXVII—ADOLYGIAD Y CYFNOD HWN, O 1882 I 1887.

YN mlynyddoedd cyntaf y cyfnod hwn, cyn i gamlas yr ochr Ddeheuol gael ei gwneud, a thyddynwyr y dyffryn isaf yr ochr Ogleddol heb gael dwfr, bu cryn anesmwythder yn mysg rhai yn yr ardaloedd hyn, a gwerthodd rhai eu tiroedd, ac aethant ymaith. Yr oedd yr adeg hono yn Buenos Ayres foneddwr Gwyddelig, o'r enw Mr. Casey, wedi cael math o hawl amodol ar ddarn