Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ngoleu ei hun yn fawr wrth beidio rhoi cymhorth cyson i hon, i gadw yn mlaen i redeg rhwng y sefydliad a Buenos Ayres.

Symudiad yr Indiaid o'r lle.—Fel yr oedd ein sefydliad ni ar y Cemwy yn llwyddo, yr oedd Patagonia fel gwlad yn dyfod yn fwy—fwy adnabyddus, a theimlai y llywodraeth nad oedd y dydd ddim yn mhell pan fyddai galw am diroedd Patagonia; ac er mwyn gwneud y tir yn fwy marchnadol, tybient y byddai gwaghau y wlad o'r Indiaid yn ateb y dyben hwnw. Y mae mwy o ofn Indiaid ar yr Yspaeniaid nac ar y Cymry, ac y mae hyny wedi codi yn ddiamheu oddiwrth hen hanesion am ymosodiadau creulon Indiaid mewn gwahanol barthau o'r wlad, Yr oedd creulondeb yr Yspaeniaid tuag at frodorion South America yn ddiarhebol, ac felly yr oedd yn naturiol i'r Indiaid ddial arnynt bob tro y caent gyfle, ac felly y gwnaent; ond yr oeddym ni fel Cymry wedi bod yn garedig i'r Indiaid o'r cychwyn cyntaf, ac wedi enill eu hymddiried, a'u hewyllys da. Beth bynag, yn 1884 anfonodd y Llywodraeth Archentaidd fyddin o filwyr i lawr o Buenos Ayres, trwy Bahia Bonca a Rio Negro, a than odreu yr Andes i lawr i Santa Cruz, a daliasant a chymerasant ymaith yr oll a roddai eu hunain i fyny iddynt, a lladdasant y lleill, oddigerth nifer fechan a allodd eu hosgoi, ac ymguddio rhagddynt. Yn yr adeg hon, dygwyddodd tro pur ofidus yn ein plith fel Gwladfawyr. Yr oedd pedwar o'r Sefydlwyr wedi myned ar wibdaith archwiliadol i fyny i'r wlad, rhyw ddau can' milldir o'r sefydliad; ac wrth ddychwelyd tuag adref, pan oeddynt rhyw gant neu chwech ugain milldir o'r sefydliad, rhuthrodd nifer o Indiaid arnynt yn ddisymwth, a lladdasant dri o honynt mewn modd barbaraidd iawn; ond diangodd y llall fel yn wyrthiol. Teithiodd y dihangol hron yr holl ffordd uchod gydag un ceffyl, a hyny heb aros mynud yn unlle, ac unwaith trwy le bron anhygoel i unrhyw ddyn a cheffyl i deithio trwyddo. Cymerodd y ddamwain alarus hon le mewn canlyniad i waith y milwyr y flwyddyn hono yn erlid yr Indiaid, fel yr oeddynt wedi mileinio cymaint, wrth y dynion gwynion fel nad oeddynt yn prisio hyd yn nod am eu hen gyfeillion y Cymry. Wedi i'r dihangol dd'od i'r Sefydliad, a dweyd