Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o rai oedd o'r un feddwl ag ef ag a fuasai yn myned allan i ddechreu Gwladfa yn Patagonia. Daeth drosodd i Gymru, ac yn bur fuan daeth i gysylltiad a'r Parch. M. D. Jones, Bala, yr hwn, yn nghyd ag ereill, a drefnasant iddo fyned ar hyd a lled Cymru i areithio ar y buddioldeb o gael Gwladfa Gymreig yn Mhatagonia. Yr oedd gan y dyn ieuanc hwn allu i ymadroddi yn llithrig, a chan fod ei ysbryd yn angherddol dros Gymry a Chymraeg, llwyddai i godi y teimlad Gwladfaol yn uchel iawn yn mhob man lle yr elai.

Erbyn hyn yr oedd y Parch. M. D. Jones wedi llwyddo i ffurfio Pwyllgor Gwladfaol, yr hwn a gyfarfyddai yn Llynlleifiad. Y rhai a gyfansoddent y Pwyllgor hwn oeddynt y rhai canlynol:—Parch. M. D. Jones, Bala; y Meistri Morgan Page Price, Aberdar; Edward Cymric Roberta, Oshkos; John Peters. Caergybi; Thomas Davies, Dowlais; Matthew Williams, Castellnedd; Thomas Hopkins, Mountain Ash; William Thomas, Llanelli; William Jones, Aberystwyth; W. P. Williams, Birkenhead; John Edwards ac Owen Edwards, Lewis Jones, Hugh Hughes, Cadvan, a Robert Janes—y pump diweddaf o Lerpwl. Yr oedd yna hefyd fân gymdeithasau a phwyllgorau yma a thraw yn Ne a Gogledd Cymru yr adeg hon, pa rai oeddynt yn ymdrechu i godi ysbrydiaeth Gwladfa Gymreig yn yr ardaloedd lle yr oeddynt yn byw.

PEN. II. PENDERFYNU AR PATAGONIA FEL LLE I SEFYDLU.

Erbyn hyn yr oedd y syniad a'r angen am sefydlu Gwladfa Gymreig wedi dyfod yn lled aeddfed, a'r Gwladfawyr wedi dyfod yn bur unol am Patagonia fel y lle mwyaf cyfaddas, ag ystyried pob peth ag a allesid gael. Yr hyn oedd wedi tynu mwyaf o sylw at Patagonia oedd tystiolaeth y Llyngesydd Fitzroy, yr hwn oedd wedi bod yn arolygu arfordir America Ddeheuol yn y flwyddyn 1833, ac wedi rhoi canmoliaeth uchel i ddyffryn y Camwy, neu Chubat, fel ei gelwid y pryd hyny.