Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hanes, ffurfiwyd mintai o wirfoddolwyr i fyned i fyny er cael gwybod yn sicr pa fodd yr oedd pethau, am nad oedd yr hwn a ddiangasai yn gwybod yn fanwl pa fodd yr oedd pethau wedi troi allan. Wedi cyrhaedd y man, cawsant er eu gofid y tri chorff, ond wedi eu anmharchu mewn modd barbaraidd iawn, a chladdasant hwy yno mor barchus ag y caniatai yr amgylchiadau iddynt wneud.

Gwleidyddiaeth y Cyfnod Hwn.—Yr oedd y Llywodraeth Archentaidd wedi ymyraeth fel y gwelsom er 1876, pryd yr anfonwyd i lawr y prwyad Antonio Oneto. Bu efe yn ein mysg am tua phedair blynedd, ac yn ystod y ddwy flynedd ddilynol bu dau neu dri ereill pur ddinod, y rhai na wnaethant ddim i dynu sylw nac i adael argraff y naill ffordd na'r llall. Ond yn 1881 anfonodd y Llywodraeth i lawr weinyddiaeth newydd, mwy cyfan a threfnus na'r un o'r rhai fu genym o'r blaen. Anfonwyd i lawr brwyad, ysgrifenydd, meistr y porthladd, meistr y dollfa, a nifer o heddgeidwaid. Cymerodd y prwyad hwn, sef Juan Finoquetto afael eangach a thynach yn ei swydd na'r un fu o'i flaen, er mai dyn anwybodus ydoedd. Meddai ar lawer o synwyr cyffredin, ond yr oedd yn uchelgeisiol iawn, ac yn hollol amddifad o'r syniad, ei bod yn bwysig gwneud yr hyn oedd iawn, os na ddygwyddai yr hyn oedd iawn a'i les yntau ddygwydd bod yn cydgordio. Ar y cychwyn cyntaf meddyliodd y gallai lywodraethu y sefydlwyr a llaw uchel, fel yr oedd swyddogion o'r fath yn arfer a gwneud mewn rhanau ereill o'r weriniaeth, ond bu yn ddigon craff i weled na lwyddai fel hyn gyda'r Cymry a newidiodd ei ddull yn bur fuan. Yn nechreu y brwyadaeth hon o eiddo Mr Finoquetto bu tipyn o annealldwriaeth cydrhyngddo a'r sefydlwyr, ac anfonodd ddau o'r sefydlwyr mwyaf selog wladfaol yn garcharorion i Buenos Ayres amanufuddhau i rai o'i drefniadau, sef Mri. Lewis Jones a R. J. Berwyn. Ni buont yno ond cwpl o ddyddiau am i gyfeillion yn y Brif Ddinas ymyraeth ar eu rhan, ac o hyny allan aeth pethau yn mlaen yn llawer mwy esmwyth. Y prwyad yn awr oedd yr unig swyddog gwleidyddol ac ynadol yn y lle yn ol y gyfraith, ond yr oedd y gwladfawyr yn parhau eu ffurf lywodraeth gyntefig yn eu plith eu hunain, ond pe buasai rhywun yn dewis, fel y dygwyddai weith iau anwybyddu dyfarniad yr ynad neu y cyngor gwlad—