Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

faol, yna yr oedd yn rhaid apelio at y prwyad cenedlaethol. Ond er fod y dyn hwn yn hunangeisiol ddiderfyn, eto, yr oedd yn weithgar iawn, ac yn ei amser ef y cafwyd y rhan luosocaf o'r gweithredoedd ar y tyddynod, a hefyd, adlun o Fap gwreiddiol yr holl ffermydd. Er mwyn cael llonydd i aros yn ei swydd, i allu helpu ei hun mewn gwahanol ffyrdd, bu yn ddigon call i adael i'r Sefydlwyr drin eu materion eu hunain, yn eu mysg eu hunain a pheidio ymyraeth a hwynt yn eu trefniadau, ond yr oedd ei adroddiadau i'r llywodraeth genedlaethol yn rhoi gwedd anffafriol ar y gwladfawyr yn barhaus, i'r dyben, mae yn debyg, i roi ar ddeall fod ganddo ef waith mawr i'w wneud yn eu plith. Felly buy prwyad hwn yn gweinyddu o 1881 hyd ddiwedd 1885. Fel y gellid meddwl nid oedd y Sefydlwyr yn foddlon ar ryw drefniadau goddefol a dirym fel hyn, a buom yn deisebu y Llywodraeth ar iddynt basio deddf trwy y Gydgyngorfa er ein ffurfio yn Diriogaeth, fel ag i'n galluogi i ethol ein swyddogion o'n plith ein hunain a gwneud ein deddfau ein hunain yn gystal a'u gweinyddu. Anfonwyd y Parch. D. Ll. Jones i fyny i Buenos Ayres yn 1882 yn nglyn a'r mater hwn. Ac wedi hir erfyn a dysgwyl pasiodd y Llywodraeth ddeddf y tiriogaethau yn y flwyddyn 1885— Tan y ddeddf hon rhanwyd Patagonia yn wahanol Diriogaethau, yn mysg y rhai yr oedd ein Sefydliad ni o'i gylchoedd yn cynwys un, dan yr enw Tiriogaeth y Camwy, yr hon oedd i gyrhaedd o Ledred 42 hyd Ledred 46 Deheuol gyda y mor, ac o'r mor i gopa uchaf yr Andes i'r Gorllewin. Apwyntiwyd hefyd Raglaw ar y Diriogaeth, sef Lewis George Fontana, Lieutenant— Colonel. Trefnwyd hefyd fod Barnwr Cenedlaethol i breswylio yn Rawson yr hon fwriedir i fod yn Brif Ddinas y Diriogaeth, neu feallai y Dalaeth rhyw ddiwrnod. Mae cyfraith y Tiriogaethau yn trefnu fod pob Tiriogaeth i ethol ei Chyngor ei hun, ei hynadon ei hun, gwneud ei chyfreithiau ei hun, a llywodraethu ei hun yn fewnol yn gyfangwbl, ond fod troseddau mawrion, megys ysbeiliadau, a miwrddriadau, i'w dwyn tan sylw yr Ynad Cenedlaethol cyn y byddent yn derfynol. Y gallu gwladol yn mhob Tiriogaeth ydyw Cyngor o bumb aelod wedi eu hethol gan y trigolion, un ynad wedi ei ethol yr un modd, a hyny yn mhob rhanbarth (section). Y mae y