Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyngor i wneud y cyfreithiau lleol, rhoddi trwyddedau, gosod y trethoedd angenrheidiol, arolygu addysg y lle, a gwneud a gofalu am weithiau cyhoeddus, megys ffyrdd a phontydd, yn nghyd a threfniadau ereill a allai fod yn angenrheidiol. Dyma ni o'r diwedd wedi cael furf y Llywodraeth iachus beth bynag, ond diffyg mewn Tiriogaethau a Thalaethiau ieuainc ydyw bod yn wan yn y gweinyddiad. Buom am y deng mlynedd gyntaf yn llywodraethu ein hunain yn gyfangwbl am nad oedd neb yn ymyraeth a ni, a buom am tua deng mlynedd drachefn yn llywodraethu ein hunain fel yn oddefol, ond heb un gallu cyfreithiol tu ol i ddim a wnelem, am mai y swyddogion oedd yn y lle o apwyntiad y Llywodraeth oedd yn dybiedig i fod yn llywodraethu, ond dyma ni yn awr yn diriogaeth gyfansoddiadol yn y Weriniaeth ac ar y ffordd i ddyfod rhyw ddiwrnod yn Dalaeth, a Rawson yn brif ddinas. Wrth adolygu ein llywodraethiad am yr ugain mlynedd yr ydym wedi myned drosto teimlwn y byddai yn anhawdd gael sefydliad mewn unrhyw barth o'r byd a lywodraethodd ei hun mewn modd mor dawel, a chyda mor lleied o droseddau; yn wir yr oedd troseddau yn ystyr fewnol o'r gair yn anadnabyddus i ni yn y cyfnod hwn, ond fyddai genym rhyw fan gynghawsau, a chamweddau i'w gwastadhau yn awr ac eilwaith.

Y Wladfa yn Gymdeithasol a Chrefyddol.—

Rhifai y boblogaeth tua diwedd y cyfnod hwn oddeutu 1,600, ac yr oedd y boblogaeth hon wedi ei gwasgaru ar hyd a lled y ddau ddyffryn o bob tu i'r afon. Erbyn hyn y mae cyfleusderau addysgol lle wedi newid yn fawr, ond nid ydynt eto yn agos y peth y dylent fod. Yn niwedd y cyfnod hwn, y mae genym chwech o ysgolion dyddiol, dwy genedlaethol yn cael eu dwyn yn mlaen yn yr Yspaenaeg, a'r pedair ereill yn cael eu cario yn mlaen trwy roddion gwirfoddol, a'r cyfan yn cael eu dysgu trwy y Gymraeg. Y mae yr ysgolion hyn wedi eu lleoli yn weddol ganolog fel ag i gyfarfod a'r holl boblogaeth, oddieithr bwlch neu ddau ag sydd hyd y hyn heb eu llanw yn gyson. Rhaid i ni addef mai araf iawn yr ydym fel cenedl yn dod i dalu y sylw dyladwy i addysg. Yr ydym ar ol yn y peth hyn i'r Ysgotiad a'r Americanwr, os nad i'r Saes. Y mae genym fel Cymry, Saeson ac Americaniaid ein nodweddion neillduol.