Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crefydd sydd yn nodweddu y Cymro, masnach y Sais, ac addysg yn un o'r pethau cyntaf i'r Americanwr. Pan sefydla haner dwsin o deuluoedd o'r olaf, codant ysgoldy yn y fan, ond pan welir nifer fechan o Saeson wedi ffurfio Gwladfa, y siop fydd un o'r pethau cyntaf, ond pan el y Cymro allan i wladychu, un o'r pethau cyntaf a wna efe fydd codi capel, a threio cael cwrdd gweddi, cyfeillach, ac Ysgol Sul, a rhywun i bregethu, Os bydd modd yn y byd. Felly, fel yr ydym wedi gweled yn barod, y bu yn Patagonia. Yr oedd genym ein capeli yn gyfleus iawn dros yr holl ddyffryn. Erbyn diwedd y cyfnod hwn, y mae genym dri-ar-ddeg o gapeli a thri ysgoldy. Y mae yn y tri chapel ar ddeg hyn eglwysi corfforedig a thri gwasanaeth bob Sabboth, sef dwy bregeth fel rheol, ac Ysgol Sul, a phan na fydd pregeth, cynelir cwrdd gweddi. Y mae yn yr ysgoldai hefyd Ysgol Sul yn gyson, ac weithiau gwrdd gweddi. Yr ydym erbyn hyn yn bedwar enwad,—Annibynwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Bedyddwyr, a'r Eglwys Esgobaethol Seisnig, neu fel y gelwir hi yn gyffredin, yr Eglwys Sefydledig Brydeinig, ac y mae yr enwadau uchod yn sefyll o ran rhif yn gydmarol i'w gilydd yn ol fel y maent wedi eu gosod i lawr yma. Yr oedd genym er y cyfnod o'r blaen, fel yr ydys eisioes wedi dangos y tri enwad cyntaf, 4 o weinidogion yn perthyn i'r blaenaf, ac un i'r olaf, ond nid oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd weinidog yn ystod y cyfnod hwnw. Yn gynar yn y cyfnod diweddaf hwn y sefydlodd yr Eglwys Esgobaethol gangen o honi ei hun yn ein plith. Anfonwyd offeiriad allan, o dan nawdd Cymdeithas Genhadol De America, perthynol i'r Eglwys Esgobaethol. Caniataer i mi yn y fan hon gywiro adroddiad Captain Musgrave y llong ryfel Brydeinig. "Cleopatra" am Mawrth 31, 1890, lle y dywedir dan y penawd "Religion,"—"Chiefly Dissenters. No Church of England clergyman there." Yr oedd y Parch. H. Davies, o esgobaeth Bangor, wedi dyfod yma naill yn 1893 neu 1894. Daeth yma hefyd yn nechreu y cyfnod hwn, fel y cyfeiriasom o'r blaen, weinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd, o'r enw William Williams, broder Gwalchmai, Mon, ond rhywfodd nen gilydd ni fu nemawr lwyddiant ar ei lafur, mewn rhan yn ddiameu