Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

herwydd diffyg doethineb o'i du ef. Ni bu ei arosiad yn hir yn ein mysg, am iddo ymadael i Buenos Ayres. Tua diwedd y cyfnod hwn, 1887, ymwelwyd a ni gan y Parch. W. Roberts, Llanrwst, Gogledd Cymru. Yr oedd efe wedi cael ei anfon allan gan y Corff Methodistiaid yn Nghymru, er gweled sefyllfa eu henwad ar y Camwy. Bu y boneddwr hwn yn ein plith am tua chwech mis, a gwnaeth ei hun yn ddefnyddiol iawn trwy ystod ei arosiad, trwy bregethu gyda nerth a dylanwad daionus, a gadawodd ar ei ol berarogl Crist yn mhob man ag y bu ynddo. Yn 1882, daeth atom y Parch. R. R. Jones, Newbwrch, Mon, gweinidog Annibynol, ac yn 1886 dychwelodd atom y Parch. Lewis Humphreys, wedi bod oddiwrthym yn Nghymru am 20 mlynedd. Gwelir fod genym yn niwedd y cyfnod hwn wyth o bregethwyr yn y lle, a phymtheg o leoedd i addoli, a'r rhai hyny wedi eu lleoli y fath, fel nad oedd gan y pellaf ychwaneg na dwy neu dair milldir i'r capel nesaf ato.

Amrywiaeth. Yn mlynyddoedd diweddaf y cyfnod, bu cryn archwilio ar y berfedd—wlad gan wahanol bersonau. Yr oedd y Meistri Lewis Jones a John M. Thomas wedi teithio llawer o'r wlad i'r De, Gogledd a Gorllewin cyn hyn, ond yn ddiweddar bu Mr. Bell, goruchwyliwr y ffordd haiarn, gyda mintai i fyny i gyfeiriad yr Andes, i'r Gorllewin a'r Gogledd, yn chwilio am dir cymwys i'w sefydlu, ac mewn canlyniad prynodd cwmni o Saeson— yr un pobl a chwmni y ffordd haiarn—prynodd y cwmni hwn ranbarth eang i'r Gorllewin—Ogledd gan y Llywodraeth Archentaidd, ac y maent o hyny hyd yn awr yn ei ddefnyddio i fagu arno anifeiliaid, megys ceffylaw, gwartheg, a defaid. Hefyd, ffurfiodd y Rhaglaw Fontana, J. M. Thomas, a Mayo fintai o 25 o ddynion sengl i fyned i fyny i archwilio y wlad i'r Gorllewin, ac wedi bod i ffwrdd am rai misoedd, dychwelasant oll yn fyw ac yn iach, wedi cael eu boddloni yn fawr yn y wlad. Yr oedd y rhaglaw, cyn cychwyn y daith archwiliadol hon, yn addaw i'r fintai oedd yn ganlyn y buasai yn apelio at y Llywodraeth i roddi iddynt 50 llech o dir am yr anturiaeth, coll amser, yn nghyda chostau y daith, yr hyn a gyflawnodd yn ffyddlawn wedi hyny. Y dealldwriaeth oedd, fod i'r 25 dynion sengi gael llech (league)