Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o dir bob un, a bod y 25 llech ereill i gael eu rhanu yn gyfartal cydrhwng arweinwyr y fintai. Erbyn hyn yr oedd y sefydlwyr ar y Camwy yn awyddus i gael agoriad newydd, fel ag i allu cymell dyfudwyr i ddyfod atom eto, am fod yr holl dir mesuredig ac amaethadwy oll wedi ei gymeryd eisioes. Hefyd yr oedd plant yr hen sefydlwyr erbyn hyn wedi codi i fyny yn ddynion, a rhai o honynt wedi priodi, ac yr oedd eisieu ffermydd arnynt hwythau. Yr oedd y sefydliad ar y Camwy hefyd wedi cynyddu mewn anifeiliaid, fel yr oedd yn anhawdd eu porfau ar gyffiniau y dyffryn, am nad oedd y tyddynod hyd yn hyn wedi eu cau i mewn, ac felly y cnydau yd, yn agored i'r anifeiliaid, ond fel yr oeddid yn bugeilio. Byddid yn bugeilio yr anifeiliaid hyn, nid ar y dyffryn yn ymyl yr yd, ond ar y paith oedd yn nghefn y dyffryn. Meddianai sefydlwyr y Camwy ar ddiwedd y cyfnod hwn chwe' mil o ddefaid, 1,500 o geffylau, ac oddeutu wyth mil o wartheg. Wedi clywed tystiolaeth yr archwilwyr am diroedd godrau yr Andes, yn enwedig am y lle a enwasid ganddynt yn Cwm Hyfryd, yr oedd amryw o'r teuluoedd ieuangaf yn awyddus i fyned i fyny er meddianu tiroedd iddynt eu hunain a'u hiliogaeth. Soniasom yn nes yn ol yn yr hanes hwn am yr Indiaid yn cael eu hymlid o'r wlad. Gwasgarwyd hwynt yma a thraw i wahanol barthau o'r Weriniaeth, ond nid i gyd, crynhowyd cryn nifer o honynt i le a elwir Valchita, ac ereill mewn lle yn uwch i fyny i'r Gorllewin. Y maent yn y lleoedd hyn yn derbyn cymorth bywioliaeth gan y Llywodraeth, a than warcheidiaeth filwrol, ac yn cael rhyddid i fyned i hela marchnata trwy fath o drwydded gan swyddogaeth y lle, fel y mae yr hen frodorion wedi dod yn heddychol a diddig unwaith eto; ac yn lle bod yn beryglus ac yn drafferth, y maent yn gyfryngau elw nid bychan i fasnachwyr y Camwy a'r Andes.

Adeiladaeth.—Erbyn diwedd y cyfnod hwn yr oedd cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle yn nglyn ag adeiladaeth. Yr oedd genym lawer o dai heirdd yn awr briddfeini llosgedig, a'r dodrefn wedi newid yn fawr. Y mae genym hefyd yr adeg y soniwn am dai dri phentref, neu fel yr ydym yn eu galw, trefydd, sef Rawson, Trelew, a'r Gaiman. Tai o briddfeini llosg-