Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edig sydd yn Rawson, a hon yw y brif dref, am mai yma y mae swyddfeydd y Llywodraeth. Hon, fel yr ydym wedi crybwyll yn barod, oedd ein tref gyntaf, yr hon a ddechreuwyd ger yr hen amddiffynfa, o fewn rhyw dair milldir i'r môr. Y dref nesaf yn y dyffryn yw Trelew. Y mae hon yn cynwys llawer o dai ceryg, y rhai a giudir gan y ffordd haiarn o chwarel rhyw ddeuddeg milldir i gyfeiriad Porth Madryn. Galwyd y dref hon yn Trelew oddiwrth enw Lewis Jones, yr hwn a arferir ei alw yn "Llew Jones," neu Llew," am mai efe fu y prif symudydd er cael cwmni i wneud y ffordd haiarn. Yn Trelew y mae y ffordd hon yn cychwyn, ac yno felly y mae yr orsaf, a holl swyddfeydd ac ystordai y cwmni, ac ar eu tir hwy y mae y dref wedi ei hadeiladu, yr hwn a werthir yn lotiau i'r neb a fyno adeiladu. Ond y cwmni ei hun sydd wedi adeiladu y rhan luosocaf o'r tai. Yma hefyd y mae prif ystordy y Cwmni Masnachol a'r brif swyddfa, yn nghyda changen- fasnachdy. Y mae camlas ddyfriol yn awr yn dod trwy y dref hon. Y dref nesaf yw y Gaiman. Y mae hon o ran oedran yn nesaf at Rawson, ac yn debyg o ddyfod y luosocaf ei phoblogaeth. Y mae Trelew tuag wyth milldir yn uwch i fyny i'r dyffryn na Rawson, a'r Gaiman tua deuddeg milldir yn uwch drachefn, neu tua 23 o'r môr. Gan fod y dref hon yn sefyll ar lain gul o dir rhwng yr afon a'r uchdir, yn yr hwn y mae cyflawnder o dywodfaen, y mae y tai yma yn amrywio rhai o. briddfeini, a rhai o geryg—yr un modd a Trelew. Yr oedd yma yn niwedd y cyfnod hwn fasnachdy neu ddau. Cawn cyn gorphen yr hanes gyfeirio eto at sefyllfa y trefydd hyn.

PEN. XXVIII.-CYFNOD Y PEDWERYDD, NEU YR OLAF.

Dyma ni yn awr wedi dod hyd y cyfnod diweddaf yn hanes ein Gwladfa. Fel y mae y sefydliad yn heneiddio, y mae yn llyfnhau fel pob sefydliad arall—llai o bethau anghyffredin yn cymeryd lle, a phethau yn llithro yn mlaen yn fwy unffurf, a'r naill flwyddyn ar o y llall yn meddu mwy o debygrwydd i'r un o'i blaen nac yn mlynyddoedd cychwyniad y sefydliad. Er. fod