Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y prif weithiau dyfrhaol wedi eu gwneud, eto yr oedd ac y mae hyd yn awr waith perffeithio arnynt. Nid oedd camlas y dyffryn uchaf yr ochr Ogleddol yn alluog i roi dwfr i bawb pan y byddai yr afon yn dygwydd bod yn isel iawn. Yr oedd y tyddynwyr oedd nesaf at enau y gamlas, ac oddiyno i lawr am lawer o filldiroedd, yn cael digon o ddwfr bob amser, am eu bod yn ei gymeryd pan yr oedd arnynt ei eisieu, heb gymeryd un ystyriaeth o'u cymydogion oeddynt yn is i lawr a'r un faint o hawl a hwythau iddo. Felly byddai pobl pen isaf y dyffryn yn dyoddef pan na byddai cyflawnder o ddwfr i bawb. Nid oedd camlas yr ochr Ddeheuol ychwaith yn rhoi cyflawnder o ddwfr ar bob adeg, er fod hon yn ddyfnach nag un yr ochr Ogleddol, eto yr oedd yn rhy gul mewn rhai manau i gario cyflawnder, yn enwedig pan y byddai llawer yn galw am ddwfr yr un pryd. Yr oedd, ac y mae eto yr un gwyn yn erbyn pobl rhanau uchaf a chanolbarth y gamlas hon ag ydoedd yn erbyn tyddydwyr yr ochr Ogleddol, sef eu bod yn gwneud cam a thyddynwyr gwaelod y dyffryn pan y byddai y dwfr yn brin—yn lle ei ranu yn deg, yn cymeryd eu digon eu hunain pan y byddai eu cymydogion yn is i lawr yn methu cael dim, a thrwy hyny yn cael colledion anferth. Yr ydys er's rhai blynyddau hellach yn treio cael gan y cwmni hwn i ledu y gamlas, a'i gwneud yn briodol i gyflenwi pawb â digon o ddwfr, ond ni rydd y bobl hyny sydd yn cael digon o ddwfr glust o gwbl i'r mater, ac y mae y nifer sydd yn dyoddef yn rhy fychan i allu gwneud y gwaith, hyd yn nod pe buasai yn deg iddynt ei wneud. Buom yn meddwl lawer gwaith wrth weled yr ysbryd hunangar hwn, mai ychydig iawn o honom sydd yn adnabod ein hunain yn briodol. Pan yr oedd y bobl hyn yn Nghymru yn cael eu gwasgu gan oruchwylwyr a meistri gweithiau, mawr fel y condemnient ysbryd treisiol a gorthrymus, a gallesid meddwl eu bod hwy yn ddynion teg a thosturiol anghyffredin. Ond wedi iddynt hwy newid esgidiau y gwas am rai y meistr, newidiasant yr un pryd ysbryd y gorturymedig am un y gorthrymwr. Heblaw fod y camlesi hyn yn anorphenedig, yr oedd tyddynwyr y dyffryn isaf yr ochr Ogleddol heb un ddarpariaeth briodol i ddyfrio eu tyddynod. Gwelsom