Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r argae a wnaethid gan gwmni y ffordd haiarn mewn undeb a'r tyddynwyr dori, ac felly fyned yn hollol ddiwerth. Yr oedd y bobl erbyn hyn wedi eu hargyhoeddi yn dra llwyr nad oedd gwiw gwneud argae, a bod yn rhaid iddynt hwythau gael camlas. Yr anhawsder gyda. hwythau oedd cael y dyffryn i gyd i weled yr un fath yn nghylch y lle i gychwyn y gamlas. Os yn mhen uchaf y dyffryn isaf y byddai y genau, yna byddai tyddynod nesaf i'r genau am tua thair neu bedair milldir yn cael eu difuddio, am y buasai y gamlas ormod yn y ddaear, ond buasai y tyddynod oddiyno i lawr yn sicr, ac yna nid oedd y rhai hyny yn foddlon i fyned yn uwch i fyny i geisio eu dwfr. Buont fel hyn yn anghytuno fel ag i fethu gwneud dim am rai blynyddoedd. Yn yr adeg hon, yr oedd pobl yr ochr hon i'r afon, er cael yd iddynt hwy a'u teuluoedd, yn rhentu tir yn yr ochr Ddeheuol, ac felly yn cadw eu hunain allan o ddyled, ond yn bur dlodion fel rheol. Yn gynar yn y cyfnod hwn, cafodd y Rhaglaw Fontana addewid gan y Llywodraeth am y 50 llech dir y soniasom am dano i fyny yn ngodrau yr Andes, ar yr amod fod y rhai a'i hawliai i fyned yno i fyw, a rhoddi arno anifeiliaid, a chodi ty arno, a thrin cyfran fechan o hono. Mewn canlyniad, aeth amryw ddynion sengl, a rhai penau teuluoedd heb eu teuluoedd i fyny yno gydag anifeiliaid, er enill iddynt eu hunain ddarnau helaeth o dir. Yn 1890-1, aeth rhai teuluoedd cyfain i fyny, fel erbyn diwedd 1891 yr oedd yno sefydliad bychan cysurus o tua 70 o eneidiau. Y mae y sefydliad newydd hwn tua 300 milldir i'r Gorllewin o'r Camwy, neu dyweder o Rawson. Ar y dechreu, teithio y byddid ar geffylau yn ol ac yn mlaen. Cymerai tua 15 neu 20 niwrnod y pryd hwnw i wneud y daith ar geffyl. Ond o'r diwedd penderfynodd mintai o ddynion cryfion fyned i fyny gyda gwagen, a gwnaent y ffordd wrth fyned yn mlaen, lle byddai angen, megys tori lle mewn craig neu ar ryw lethr serth, a llwyddasant i fyned a'r wagen i fyny bob cam i Cwm Hyfryd, lle y bwriedid i'r Sefydliad fod. Mewn canlyniad i hyn, gwnaed yn bosibl i deuluoedd gwragedd a phlant fyned i fyny gyda'u clud ac ymborth. Wrth deithio yn fynych ar geffylau, daethpwyd i wneud y ffordd yn fyrach yn barhaus, nes y maent erbyn heddyw yn gallu d'od i lawr