Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Sefydliad yn yr Andes i Rawson mewn saith neu wyth niwrnod ar geffylau, ond y mae y wagen yn cymeryd cymaint arall o amser. Yn 1890, penderfynodd Mr. Edwin C. Roberts ffurfio mintai fechan i fyned i fyny i gyfeiriad yr Andes i'r dyben o chwilio am fwnau, ond aur yn benaf. Yr oedd yr hen syniad yn ein plith fod mwnau aur ac arian a chopr yn y wlad. Yr oedd amryw o dro i dro wedi bod yn dilyn yr afon i fyny am rai ugeiniau o filldiroedd, ac wedi bod yn codi y tywod oedd ar ei thraethau, ac yn cael peth aur, ond nid oedd mewn cyflawnder fel ag i dalu am ei weithio; ond nid oeddid yn gallu rhoi i fyny y syniad am aur yn y wlad. Y mae y cwmni bychan hwn o saith yn gwneud parotoadau ar gyfer bod i ffwrdd am tua chwech mis. Y mae ganddynt, heblaw nifer o geffylau bob un, un wagen tuag at gario eu harfau a phethau angenrheidlol tuag at olchi aur, yn nhyd a'u hymborth. Yr oedd yn eu plith un dyn o brofiad mewn cloddio a golchi aur, ac yn meddu graddau helaeth o yni, ond nid oedd un o honynt yn meddu ar wybodaeth fferyllol a gwyddonol. Wedi bob i ffwrdd am bump neu chwech mis, dychwelasant gyda newyddion calonogol iawn. Galwyd cyfarfodydd er cael adroddiad ganddynt o'r hyn a welsent ac a wnaethent, ac er cael gweled yr aur oedd ganddynt i'w ddangos. Yr oedd Mr. Edwin C. Roberts, ac un neu ddau ereill yn siarad mor galonogol a brwdfrydig am yr hyn a welsent ac a gawsent, fel y codwyd brwdfrydedd mawr yn y lle, ac yr oedd amryw am fyned i fyny yn ddioedi i weled a chael drostynt eu hunain. Mae clefyd aur yn un twym a heintus iawn, ac felly yn Hydref y flwyddyn hon, mae yma o 60 i 70 yn ffurfio yn finteioedd i fyned i archwilio yn mhellach am yr aur, ond ni buont yn hir cyn dychwelyd gyda drygair i'r aur, ac yn wir, heb fawr o dda i'w ddweyd am ddim. Yn wir, yr oedd yn anmhosibl i'r bobl hyn gael eu boddloni, canys yr oeddynt wedi creu iddynt eu hunain weledigaethau euraidd nad oedd eu bath erioed wedi bod mewn bywyd mwnawl—tybient fod yr aur i'w gael ddim ond yn unig ddisgyn oddiar y ceffyl a'i bigo i fyny. Yn ystod yr amser hwn, yr oedd y cwmni saith, fel eu gelwid, yn ddiwyd yn trefnu i gael math o hawl gan y Llywodraeth i fyned i chwilio ac i ffinio allan yr ysmotyn a farn-