Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ent hwy oreu i'w weithio. Anfonwyd y newydd i Gymru, ac aeth fel tân gwyllt trwy y Dywysogaeth, ac mewn canlyniad, mae dau ddyn o brofiad mwnawl yn dod allan —un o Gymru a'r llall o New York, sef Captain D. Richards, yr hwn oedd aur—gloddiwr profiadol, a Mr. R. Roberts, yr hwn oedd yn fferyllydd yn nglyn a mwnau, ac yn gyfarwydd a dadansoddí ac elfenu. Yr oedd y cwmni o saith wedi ffurfio eu hunain yn gwmni rheolaidd erbyn hyn, ac wedi cymeryd atynt y ddeuddyn uchod ac amryw ereill ar amodau neillduol. Aethant i fyny eto wedi cyflenwi eu hunain â phob peth angenrheidiol tuag at weithio ar raddfa fechan. Gweithiasant yn galed am rai wythnosau, a dychwelasant gyda nifer luosog o samplau o aur yn yr ysbwriel, a rhyw gymaint wedi ei olchi. Trefnwyd yn awr fod y Mri. D. Richards a J. G. Thomas i fyned i Buenos Ayres er cael sicrwydd am y tir, a bod D. Richards i fyned yn ei flaen i Gymru naill ai i werthu hawliau y cwmni neu ynte i gael Syndicate a chyfalaf ganddo er galluogi y cwmni i weithio yr aur. Gan mai Mr Edwin C. Roberts oedd y prif symudydd fel yr ydym eisoes wedi dangos yn nglyn a mater yr aur, efe hefyd oedd yn cymeryd mwyaf o ddyddordeb ynddo, a mwyaf selog drosto, ac er mwyn bod mewn ffordd i allu gwneud rhywbeth yn effeithiol yn nglyn ag ef, y mae yn nechreu 1892 yn gwerthu ei dyddyn am tua £2,000, a daeth ef a'i deulu drosodd i Gymru, mewn rhan er mwyn rhoi addysg i'w blant, ac hefyd er mwyn treio cael cyfalaf i weithio yr aur yn nghodre yr Andes. Wedi iddo ef a Captain D. Richards ddyfod drosodd, a rhoddi y samplau aur oedd ganddynt o dan archwiliad neu brawf fferyllol llwyddasant i ffurfio Syndicate. Anfonodd y Syndicate hwn allan aur—gloddiwr profiadol a hefyd elfenwr dysgedig o'r Brif Ddinas, ac y maent wedi cyrhaedd y Sefydliad yn nghanol 1893, ac mor belled ag y mae pethau yn ymddangos y flwyddyn uchod, yn ol hyny o brawf sydd wedi cael ei wneud ymddengys pethau yn dra gobeithiol. Yn y flwyddyn, hon y mae Mr. R. Roberts y soniasom am dano uchod, yn gadael y Cwmni Aur ac yn ymuno a J. M. Thomas i fyned i fyny i odre yr Andes i chwilio am fwn arian, ac y mae yn ymddangos eu bod hwythau wedi llwyddo yn eu hymgais, ac wedi cael mwn