Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arian mewn cyflawnder mawr. Y maent hwythau wedi ffurfio yn gwmni ac wedi cael hawliau ar y lle gan y Llywodraeth. Heblaw y rhai uchod yr ydym yn deall fod amryw ereill yn brysur ffurfio eu hunain yn gwmniau er treio cael aur, arian, a mwnau ereill.

PENOD XXIX.—Y SEFYDLIAD AR Y CAMWY.

Nid oes angen i ni mwyach fanylu yu nglyn a'r cynhauafau, gan ein bod bellach yn cael cynhauaf da bob blwyddyn. Y mae y Sefydliad bellach er's blynyddau wedi cael ei gefn ato, oddieithr y dyffryn isaf yr ochr Ogleddol. Y mae y tyddynwyr fel yn ymgais am ragori y naill ar y llall mewn codi llawer o wenith, ac y mae y prisiau wedi bod yn hynod o ffafriol. Crybwyllasom o'r blaen nad oedd camlas y dyffryn uchaf yr ochr Ogleddol yn ddigon dwfn i gyfarfod â gostyngiadau anghyffredin yn yr afon, ac felly penderfynodd y tyddynwyr ymdrechgar hyn fyned yn uwch i fyny eto i agor genau newydd i'w camlas, a hono yn ddyfnach na'r gyntaf. Wedi rhai wythnosau o weithio caled, llwyddasant i orphen y genau newydd, ac i arwain y dwfri'r hen gam- las, ac o hyny hyd yn awr, y mae y dyffryn hwn yn cael cyflawnder o ddwfr ar bob adeg. O'r diwedd y mae y dyffryn isaf yr un ochr i'r afon yn cytuno i ranu yn ddau er cael dwfr i'w tyddynod. Y mae tyddynwyr y canol- barth, ac oddiyno i lawr at Rawson, yn cytuno i agor camlas yn mhen uchaf y dyffryn hwn, ac y mae y tyddynwyr o'r canolbarth i fyny yn cytuno i barhau camlas y dyffryn uchaf, a dyfod a hi i lawr trwy y Gaiman, a'r lle cul, fel y gelwir ef, a chroesi y gamlas arall yn mhen uchaf y dyffryn isaf gyda chafn. Bu gweithio caled ar y camlesi hyn y rhan olaf o 1891 hyd ganol 1892, pryd y llwyddwyd i'w gorphen, fel ag i gael dwfr i'r tir y flwyddyn hone, ond fod angen perffeithio y rhai hyn eto mewn rhai manau. Gwelir yn awr fod yr holl ddyffryn o ddau tu i'r afon yn meddu ar gamlesi dyfriol, ac felly fod yr holl ddyffryn yn ngafael dwfr, oddieithr rhyw ychydig o eithriadau nad yw y camlesi wedi d'od o hyd cyrhaedd iddynt, ond a ddeuant fel ereill gydag amser. Nid gwaith bychan ydyw d'od a dyffryn o 50 milldir