Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd, wrth dair neu bedair milldir o led-dod a rhyw 450 o dyddynod mawrion i afael dwfr parhaus. Yr ydys yn dra hyderus y bydd y camlesi hyn yn fuan wedi eu perffeithio y fath fel na fydd un tyddyn na llecyn trwy yr holl ddyffryn heb fod yn ddyfradwy, ac hyd yn nod gerddi y trefydd yn cael eu dyfrhau gan ffosydd yn rhedeg ar hyd ymylon yr ystrydoedd. Yr ydys wedi cyfeirio o'r blaen fod yr holl dir mesuredig ac amaethadwy yn y rhanbarth hwn o'r diriogaeth wedi ei gymeryd, fel nad oes yma le mwyach i gymhell dyfudwyr, oddigerth ambell un yn d'od at berthynas iddo. Y mae yn wir nad oes ar y dyffryn eto ond prin y bedwaredd neu y bumed ran o'r boblogaeth a ddichon gynal, ac a gynalia rhyw adeg sydd yn d'od. Y mae y ffermydd hyd yn hyn yn fawrion; ond fel y cynydda ac y tyf teuluoedd, fe dorir y ffermydd hyn i fyny yn ddwy a thair fferm i'r meibion.

Y Cnydau. Y mae y darllenydd wedi deall eisoes, wrth ddarllen yr hanes hwn, mai gwenith yw prif gnwd y lle. Gwenith fel rheol oedd wedi arfer a thalu oreu am ei godi, er fod haidd ambell i waith yn uwch ei bris, eto gwenith ydoedd y peth sicraf o farchnad dda bob tymhor at ei gilydd. Y mae y tir mor briodol i haidd ag ydyw i wenith, ac y mae yn cnydio llawn cystal, ac y mae amryw yma a thraw yn y sefydliad yn codi haidd; ac yn wir y mae bron bawb yn codi ychydig o hono, i'r dyben o fwydo ceffylau a moch. Y mae y sefydliad wedi bod o'r cychwyn ar ol mewn codi llysiau gerddi, a thatws. Y prif achos, yn ddiamheu, oedd diffyg dwfr cyson wrth law tuag at eu dyfrhau. Y mae llysiau gerddi yn gofyn dwfr yn amlach na gwenith a haidd; a chyn i'r tyddynwyr gael ffosydd priodol i bob rhan o'r fferm, yr oedd yn anmhosibl iddynt wneud llawer o gynydd mewn codi mân lysiau. Yr oedd prinder amser hefyd wedi arfer bod ar y tyddynwyr i dalu llawer o sylw i erddi, pan nad oedd mewn teulu, efallai, ddim ond un dyn i wneud pob peth, yr oedd yn anhawdd iawn talu sylw i ddim ond y cawd hwnw oedd yn d'od a swm o arian i mewn yn dâl am y llafur, heblaw y sylw ydoedd raid ei dalu i fân angenrheidiau y teulu, megys gofalu am yr anifeiliaid, gofalu am dânwydd, a myned a gwenith i'r felin er cael blawd, a man