Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

negeseuau ereill. Ond yn y blynyddoedd diweddaf, yr oedd y rhwystrau hyn wedi eu dileu gyda'r rhan luosocaf o'r amaethwyr. Yr oedd y ffosydd ganddynt yn arwain dwfr i bob cwr o'r tyddyn, a phawb yn byw ar ei dyddyn. Yr oedd y plant hefyd yn codi i fyny, ac yn d'od i gynorthwyo y tad, fel ag i'allu rhanu y gwaith, ac ambell i un yn cadw gwas yn gyson, neu ynte weithiwr ar adegau prysur. Wedi cael pethau i drefn fel hyn, y mae y Gwladfawyr erbyn hyn yn bur gyffredinol yn gwneud gerddi, ac yn codi tatws, a phâ, a phys, moron, a maip. Y mae ambell un hefyd yn cau i mewn, ac yn planu perllan; a chyn hir fe welir wrth bob ty afalau, eirin, a grawnwin.

Anifeiliaid.— Yr ydym wedi awgrymu yn barod fod ucheldir o bob tu i'r dyffryn. Tir rhydd fel comin ydyw hwn hyd yn hyn, oddieithr y darn a roddwyd i gwmni y ffordd haiarn. Tir graianog, tywodog ydyw, gyda llawer o dwmpathau o fân-ddrain ar hyd iddo mewn rhai manau, a phorfa dyswog yn tyfu arno. Bu y tir hwn o wasanaeth mawr i ni yn mlynyddoedd cychwyniad y Wladfa fel tir porfau anifeiliaid, pan oeddym yn byw yn mron yn gyfangwbl ar yr anifeiliaid; ac y mae wedi para i fod yn wasanaethgar hyd heddyw i'r rhai sydd yn cadw gwartheg, ceffylau, a defaid ar raddfa eang. Y mae y paith hwn yn le da i gadw anifeiliad ar dymhorau ffafriol mewn gwlaw, ond ar dymhorau sychion, di-wlaw, feallai am flynyddoedd ar ddim ond ambell i gafod. Ar dymhorau fel hyn nid yw ond gwael iawn, am nad oes modd dyfrhau hwn. Bydd braidd bob amaethwr yn gyru ei anifeiliaid i'r paith hwn ar rai tymhorau o'r flwyddyn; ond gan ei fod oll yn agored i'r anifeiliald i fyned i ba le bynag y mynont, y mae dipyn o drafferth yn fynych i chwilio am danynt. O herwydd y drafterth hon, y mae amryw dyddynwyr erbyn hyn wedi cau i mewn nifer o erwau o'r fferm gyda wire fence, a hau Alffalffa (Lucerne) ynddo. Math o wair glas, bras, ydyw yr Alffalffa, tebyg i high grass, neu feallai yn debycach i fetses Prydain. Y mae hwn yn tyfu yn gyflym, ond iddo gael dwfr yn ddigon aml, ac yr ydys yn cael tri neu bedwar cnwd yn y flwyddyn o hono. Nid oes angen ei hau ond unwaith, ac yna y mae yn tyfu trwy y blynyddoedd o'r gwraidd, y rhai sydd yn myned