Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i lawr o ddwy i dair llath o ddyfnder. Y mae hwn yn ymborth cryf a maethlon i'r gwartheg a'r ceffylau, ac y mae llawer erbyn hyn, —yn wir bron pawb sydd yn byw ar amaethu gwenith yn unig ar gyfer marchnad, wedi rhoi i fyny cadw ond digon o anifeilieid, yn wartheg ac yn geffylau, at wasanaeth y teulu, a thrin y tir, ac yn eu cadw ar y fferm y rhan fwyaf o'r flwyddyn, gan eu porthi â'r gwair hwn. Y mae marchnad dda ar hadau y gwair hwn yn Buenos Ayres, ac y mae rhai yn ei godi ar raddfa eang, er mwyn yr hadau, yn gystal a'i gael yn fwyd i'w hanifeiliaid. Wedi dechreu tori y ffermydd i fyny fel hyn yn gaeau, y mae golwg fwy cartrefol yn d'od ar y lle. Yn y blynyddoedd hyn, gwelir gyffredin gerllaw y ty blanhigfa o goed poblar, cae nen ddau o Alffalffa, a gardd, ac ambell i waith berllan. Nodwedd arall ag sydd braidd yn un ddiweddar yn ein mysg, ydyw y tyddyn wedi ei gau i mewn a wire fence. Hyd yn ddiweddar yr oedd amryw yn oedi gwneud hyn, am nad oedd sicrwydd a fuasid yn gadael llinellau ffiniau y ffermydd fel yr oeddynt, am fod cwyn mawr gan lawer nad oedd y ffiniau fel y dylasent fod yn ol y map a'r gweithredoedd. Yn ddiweddar cymerodd y Cynghorau y mater mewn llaw, a phenderfynasant apwyntio mesurydd trwyddedig, sef Mr Llwyd ap Iwan, mab hynaf sylfaenydd y Wladfa—M. D. Jones, Bala, i ail fesur yr holl ddyffryn, a gosod y terfynau yn iawn; ac erbyn hyn y mae y gwaith wedi ei orphen. Y mae yn wir fod yma dyddyn yma ac acw wedi ei gauad i mewn o'r blaen, ond yn awr y mae y rhwystrau wedi eu symud, a bydd llawer o hyn allan yn cau eu ffermydd i mewn.

Ansawdd a nerth y tir.—Wedi cael 29 mlynedd o brofiad yn y lle, y mae genym rhyw gymaint o fantais i roi barn ar natur a nerth ein gweryd. A chymeryd yr holl ddyffryn gyda'i gilydd, gellir dweyd mai tir trwm o natur gleuog ydyw, er ei fod yn amrywio llawer iawn. Tir priodol i wenith a haidd yn benaf, yn ol ein profiad ni hyd yn hyn. Y mae yn wir nad oes yn ein mysg eto ffrellydd amaethyddol yn alluog i elfenu y tir, ac felly nid ydym yn sicr ai y cnydau a arferwn godi ydyw y rhai mwyaf priodol yn mhob man. Hyd yn hyn nid ydym wedi codi ceirch yn y dyffryn, ond y mae ein cydwladwyr yn Sefydliad yr Andes wedi llwyddo i godi