Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn wasanaethgar byd heddyw.

Cyfalaf y Wladfa.—Un nodwedd arbenig perthynol i'r Wladfa Gymreig yw nad oes o'i mewn ddim cyfalaf estronol, ond yn unig yr hyn a wariwyd i wneud y ffordd haiarn. Mae yr holl weithiau cyhoeddus wedi eu gwneud a llafur ac arian y Sefydlwyr. Dyna y camlesi mawrion a'r canghenau mawrion sydd yn arwain o honynt——oll yn eiddo y Gwladfawyr, a gellir rhoddi arnynt amcan. brisiad a dweyd eu bod yn werth o gant i gant a haner o filoedd o bunau (€100,000 i £150,000), eto, dyna'r holl beirianau—y peirianau medi, neu fel y gelwir hwy genym medel—rwymyddion, y rhai sydd genym wrth yr ugeiniau, ac yn costio oddeutu £50 yr un, a hefyd y peirianau dyrnu y cyfeiriwyd atynt yn barod. Mae pob un o'r rhai hyn erbyn erbyn cyrhaedd y dyffryn yn costio tua £600, heb son am yr holl offer amaethyddol llai eu pris sydd yn meddiant pob tyddynwr. Anaml y bydd cymaint ag un ffermwr heb drol neu wagen, ac yn fynych y ddwy, ac heblaw y wagen a'r drol, cerbyd bychan at farchnata, a myned a'r teulu i'r cwrdd ar y Sul ac adegau ereill. Mae y pethau hyn oll yn eiddo y Sefydlwyr. Mae y peirianau dyrnu yn eiddo y Sefydlwyr yn yr un ffordd ag y mae y camlesi, sef trwy i nifer o'r tyddynwyr ffurfio yn gwmni i'w prynu.—Cwmniau yn rhifo o dri neu bedwar i fyny i haner cant neu dri ugain.

PENOD XXX.—SEFYLLFA BRESENOL Y SEFYDLIAD (PARHAD).

Masnach.—Yr ydym fwy nag unwaith yn ngorff yr hanes hwn wedi galw sylw at fasnach y lle, fel nad oes genym yn bresenol ond dweyd gair ar sefyllfa masnach ar yr adeg yr ydym yn terfynu yr hanes hwn. Nid ydyw nifer ein masnachdai wedi cynyddu, y blynyddoedd diweddaf, ond yn hytrach yn tueddu at leihau. Er's ychydig flynyddoedd yn ol rhedodd masnach yn wyllt iawn yn y lle—rhyw fasnachwr newydd yn dod i'r lle bron gyda phob llong. Wedi i'r Cwmni Masnachol Cydweithiol ddyfod i weithrediad a chael gafael pur gyffredinol yn y lle, gorfu ar rai o'r masnachwyr roi eu busnes i fyny am nad oedd yn talu iddynt. Bu yma ar