Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un adeg nifer o Italiaid yn codi busnes y naill ar ol y Hall, ond wedi bod wrthi yn treio enill cwstwm am ychydig flynyddoedd yn gorfod rhoi fyny. Mae yn wir fod yn ein plith hyd heddyw nifer fechan o estroniaid yn rhyw hongian cadw busnes, ond ni wyddom am ond un yn gwneud ond ychydig iawn o gynydd, sef un Captain Louis. Mae hwn wedi bod yn ein mysg er's blynyddoedd ao mewn undeb a Mr. Edward Owen yn cadw llong i redeg rhwng yma a Buenos Ayres, ac y mae efe yn gwneud busnes pur fawr ac yn sefydlog. Heblaw y Cwmni Masnachol Cydweithiol y mae yma ddau neu dri Chymro yn gwneud masnach ar raddfa pur helaeth, sef Mri. E. Owen, R. A. Davies, a H. Davies, a gellir enwi ereill o'r Cymry sydd yn gwneud busnes ar raddfa llai, megys Mr. J. S. Williams, Mr. Edward Jones a'r Mri. Hughes ac Owens. Dynion yw y rhai hyn oll ag sydd wedi gwneud eu harian yn y Wladfa yn y pymtheg mlynedd diweddaf, a rhai o honynt yn ddiweddarach. Erbyn heddyw, mae pob peth sydd yn angenrheidiol mewn sefydliad amaethyddol yn cael ei werthu, yn y naill neu y llall o'r ystordai sydd yn ein plith. Mae y rhan fwyaf o'r cynyrch yn awr yn myned i'r farchnad trwy Trelew a chyda y ffordd haiarn i Porth Madryn. Mae pris y ffordd hon wedi dyfod i lawr o un bunt i ddeuddeg swllt y dynell, ond bydd yn rhaid iddo ostwag eto yn ngwyneb pris isel y gwenith, neu ynte bydd yn rhaid i'r ffermwyr edrych am ryw ffordd ratach i gludo eu cynyrch i'r farchnad. Mae y Cwmni Masnachol Cydweithiol wedi gwneud lles mawr i'r Sefydliad yn y blynyddoedd cyntaf fel yr ydym wedi awgrymu yn barod, ac wedi bod yn hynod lwyddianus, ond yn y blynyddoedd diweddaf nid ydyw wedi cyrhaedd cystal dyben. Mae rhyw ddiffyg yn nglyn a'r Cwmniau hyn yn mhob man, ac nid yw y Wladfa yn eithriad. Credwn mai un o'u hanfanteision yw, nad yw cyflog i'r rhai a gariant y busnes yn mlaen, yn enwedig y prif swyddogion, yn ddigon o gymhelliad iddynt i daflu eu hunain i'r busnes fel pe byddai yn eiddo iddynt hwy eu hunain. Feallai nad yw y prif swyddogion yn cael cyflogau digon mawr fel ag i hawlio gwasanaeth dynion uwchraddol, ac hefyd fel ag i'w codi uwchlaw awyddu gwneud ceiniog lle cant gyfle. Anfantais arall yw costau mawrion. Mae sawd y cwmni