Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

brodyr John ac Owen Edwards, Lerpwl, penderfynwyd anfon allan y boneddigion Captain Love Jones Parry, Madryn, a Lewis Jones, argraffydd yn Lerpwl. Aethant allan yn Rhagfyr 1862. Buont mewn llong i lawr yn y Camwy, a buont ychydig bellder i fyny i'r afon, a chawsant gipdrem ar ran o'r dyffryn. Y mae yn rhaid addef na fuont yno ddigon o amser, ac na theithiasent ddigon i roddi adroddiad boddhaol o'r lle. Nid ydyw yn iawn beio, am nad ydym yn gwybod yn ddigon manwl yr amgylchiadau. Dychwelasant i Buenos Ayres, wedi cael eu boddloni yn fawr yn y lle, ac arwyddasant y cytundeb y cyfeiriwyd ato uchod. Dealled y darllenydd mai adlun o gytundeb ydoedd hwn i'w gynyg i'r Gydgyngorfa; nid oedd eto yn gytundeb cyfreithiol i ddibynu arno hyd nes y cytunid arno gan y Gydgyngorfa, a'i arwyddo gan y llywydd.

Ond pan gyfarfu y Gydgyngorfa, methodd y cynygiad uchod a derbyn cymeradwyaeth digon cyffredinol; ac felly syrthiodd i'r llawr, fel nad oedd gan y Gymdeithas un sicrwydd am ddim ond y ddeddf dirol a wnaed yn y flwyddyn 1862, yr hon oedd yn darparu rhoddi 124 o erwau o dir i bob teulu. Dychwelodd y Brwyadwyr Captain Love Jones Parry a Mr. Lewis Jones i Gymru cyn i'r cytundeb a nodasom uchod gael ei roddi o flaen y Gydgyngorf, am nad oedd yn amser iddynt gyfarfod ar yr adeg hono. Yr oedd sel Dr. Rawson dros y peth yn peri i'r Brwyadwyr fod yn ffyddiog iawn y buasai y cynygiad yn cael ei wneud yn gyfraith, ac felly gweithredwyd yn Nghymru fel pe buasai wedi ei basio yn orphenol. Wedi cael tystiolaeth y ddau Ddirprwywr am y wlad, at am deimlad caredig ac addawol y Prifweinidog, teimlai y Pwyllgor Gwladfaol yn Lerpwl yn galonog i fyned yn mlaen i alw mintai, ac i wneud darpariadau ar gyfer dechreu anfon allan ymfudwyr. Y mae yn iawn i mi roddi gair bach o eglurhad yn y fan hon. Fe gyhuddwyd y Parch. M. D. Jones, Bala, o dwyllo dynion, a hyny yn fwriadol, i ymfudo i Patagonia, ar y dealldwriaeth fod y cytundeb cynygiedig wedi ei dderbyn gan y Gydgyngorfa, ac yntau yn gwybod nad ydoedd. Y mae adroddiad swyddogion y llong ryfel Brydeinig, "Y Triton," a ymwelodd a'r Wladfa ar y