Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cael ei wneud i fyny o raneion yr aelodau, a thrwy fod arian yn uchel eu pris mewn gwledydd newyddion, y mae y rhanddalwyr yn dysgwyl llogau uchel ar eu harian, fel cydrhwng y cyflogau a'r llogau uchel ar y cyfalaf y mae yn anmbosibl gwerthu yn rhad, ac felly yn colli yr atdyniad mawr at y shop.

Mae y masnachwr unigol yn gallu osgoi y pethau hyn, trwy ei fod ef ei hun yn arolygu, ar llog a'r profit yn dod i'r un man. Peth arall a deimlir yn nglyn a'r cwmniau hyn yw, fod yr aelodau ar un llaw yn rhy hyf ar y fusnes, fel ag i brynu llawer ar goel, a bod yn ddifraw i dalu, ac ar y llaw arall y cyfarwyddwyr a'r arolygydd yn rhy lac a goddefus i roi mewn grym y reolau a'r penderfyniadau. Wedi'r cwbl, nid ydym yn gweled unrhyw gynllun arall ond y cwmniau hyn i atal llyman masnachol i ormesu ein sefydliadau a'n hardaloedd, a hyderwn mai ymroi i wella y cwmniau hyn a wneir yn hytrach na'u rhoi i fyny.

Ein Sefyllfa Gymdeithasol.—Yr ydym erbyn hyn o ran ein nodwedd gymdeithasol yn ddigon tebyg i ardaloedd amaethyddol Cymreig Cymru, ond fod y tyddynwyr at eu gilydd yn fwy dibryder. Mae y boblogaeth yn fyw, pob un ar ei dyddyn ei hun, oddieithr y bobl sydd yn byw yn y pentrefydd y rhai a ddibyna am eu bywioliaeth wrth wasanaethu yr amaethwyr yn y gwahanol bethau sydd angenrheidiol arnynt, a'r amaethwyr hwythau yn eu ffordd yn gwasanaethu y crefftwyr a'r masnachwyr. Mae yn y pentrefi neu fel eu gelwir genym ni, y trefydd,— mae yn y trefydd hyn wahanol grefftwyr, megys y crydd, y teiliwr, y saddler, y saer maen, a'r saer coed, y gof, a'r tinman, a hefyd rhai yn byw ar fân alwadau i weithio yma a thraw heblaw y gwahanol fasnachwyr. Mae y dull o fyw yn hytrach gyntefig, hyny yw, nid oes yn ein plith eto fel Gwladfawyr nemawr o'r starch a'r stiffidra ag sydd i'w ganfod yn yr hen wiedydd. Pawb yn teimlo yn rhydd a chartrefol, yn nhy ei gymydog bron fel cartref: ymborth a llety i'w cael yn ddyeithriad yn mhob man yn hollol ddiseremoni, heb feddwl dim o hyny heb son am gael tal am danynt. Trwy fod yr hinsawdd mor wastadol sych yn ein mysg, nid yw amaethwyr yn gorfod colli dyddiau yn awr ac eilwaith o herwydd y tywydd, ac felly yn feistri ar eu gwaith yn mhob tymor