Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel rheol, ac felly ag amser wrth law ganddynt pryd y mynont. Mae gan bawb hefyd ddigon o geffylau marchogaeth at eu gwasanaeth, fel y mae yr holl deithio, naill a'i ar gefn y ceffyl neu mewn math o gerbyd ysgafn. Bydd y dynion ieuainc o'r ddau ryw fel rheol yn marchogaeth ar geffylau, a'r penau teuluoedd a phlant mân yn y cerbydau. Fel hyn, gwelir nad yw teithio ugain neu ddeg milldir ar ugain ond peth bychan yn ein mysg gan ein bod yn gallu ei wneud trwy farchogaeth a hyny yn ddigost.

Y canlyniad o hyn yw fod cryn dipyn o ymweled a'n gilydd yn ein mysg,—pobl bell yn y wlad yn d'od i lawr i'r pentrefydd ac aros noson mewn amaethdy gerllaw, a phobl y trefydd yn myned i'r wlad i dreulio wythnos, trwy fod noson yma ac acw yn mysg eu cyfeillion. Peth cyffredin iawn hefyd yn ein mysg ydyw gwyliau tê a gwig—wyliau (picnics). Cedwir y rhai hyn weithiau yn y capelau, mewn cysylltiad a Chyrddau Undebol ein Hysgolion Sul, ac weithiau mewn cysylltiad a'n hysgol— ion dyddiol, ond ar brydau ereill cedwir hwy mewn coedwigoedd neu ar lan y mor. Y mae ein bywyd crefyddol yn ddigon tebyg i fywyd crefyddol ardaloedd amaethyddol Cymru. Y mae genym ein pregethu a'n hysgolion Sul ar ein Sabbothau, a'n cyrddau gweddi a'n cyfeillachau yn yr wythnos. Y mae genym ein hundebau yn nglyn a'n hysgolion Sul, a'n Cyrddau Mawr Pregethu yn y gwahanol gapeli yn flynyddol; ac hefyd ein hysgolion canu, ein cyfarfodydd llenyddol, ein cymdeithasau dirwestol a diwylliadol, a'n heisteddfodau lleol a chyffredinol. Gellir dweyd fod y Cymry ar Ddyffryn y Camwy, ac edrych yn gyffredinol arnynt, yn foesol, sobr, a chrefyddol. Y mae yn wir fod yn ein mysg bob amrywiaeth o ddiodydd meddwol, ond nid yw ein tai yfed, neu yn fwy priodol, ein tai gwerthu diodydd, fel tafarndai Cymru, yn cynwys lle i ddegau eistedd i lawr ynddynt o fore hyd hwyr i yfed, ond yn hytrach lle i nifer fechan eistedd, a hyny yn yr ystafell lle y gwerthir y ddiod dros y counter yn laseidiau neu yn botelau. Y brofedigaeth fawr mewn lle tawel o fath ein lle ni, ydyw angen rhywbeth i gyfarfed a bywiogrwydd yr ieuenctyd, ac yn absenoldeb dim arall, temptir hwy i fyned i'r Fonda neu y tafarndy, i chwaren billiards neu rhywbeth tebyg. Y