Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae y wlad at eu gilydd yn sobr, a gellir dweyd am danom fel y dywedid am y Sidoniaid hyny yn nyddiau y Barnwyr, ein bod "yn trigo mewn dyogelwch, yn llonydd a diofal, heb fedru o neb yru cywilydd arnom mewn dim."

PEN. XXXI.-RHAGOLYGON Y DIRIOGAETH.

Gofyniad a roddir i ni yn fynych y blynyddoedd hyn gan ddyeithriaid yw, Pa beth ydyw eich rhagolygon? Rhaid i ni addef nad ydym yn hollol bendant ar ein rhagolygon, nid am ein bod yn ofni unrhyw fethiant yn nglyn a'n dyffryn ni; y mae rhagolygon dyffryn y Camwy ei hun yn eithaf addawol, ond y mae sicrwydd ein llwyddiant mewn modd eang yn dybynu ar bosibilrwydd y tiroedd o'n deutu. Y mae digon o dir o'n deutu, y mae yn wir, ar y dde ac ar yr aswy, ac i'r Gorllewin, ond y mae corff y tir hwn yn anamaethadwy o herwydd ei sychder, ac hefyd ei fod yn rhy uchel i allu dwyn dwfr yr afon i'w ddyfrhau. Y mae yn wir y gellir cadw nifer luosog o anifeiliaid arno, ond nid yw bugeilio a magu anifeiliaid wrth y miloedd yn casglu poblogaeth fel ag i ffurfio cymdeithas lle y ceir yr arferion a'r breintiau hyny ag y mae calon y Cymro yn glymedig wrthynt, ond eto, nid ydym am fod yn rhy bendant ar bosibilrwydd y tir hwn. Y mae celfyddyd a gwyddoniaeth yn nghyd yn gwneud camrau breision iawn yn nghyfeiriad diwylliant a darostyngiad tiroedd anial a diffrwyth iawn y blynyddoedd hyn. Ond y mae o'n deutu ni hefyd ddyffrynoedd mawrion amaethadwy, ond nad ydynt yn gydiol a'n dyffryn ni nac a'u gilydd, ond yn cael eu tori gan ddarnau mawrion o ucheldiroedd, ac felly yn rhy bell oddiwrth eu gilydd fel ag i fod yn gynorthwy cymdeithasol y naill i'r llall, ac hefyd y maent yn rhy bell o'r môr i allu dwyn ein cynyrch i afael marchnad. Gwelir felly fod ffordd haiarn yn hanfodol er cydio a dwyn y manau hyn i ymyl eu gilydd. Yr hyn sydd yn ansicr ar hyn o bryd ydyw, o ba borthladd yr arweinir ffordd haiarn i fynu i'r berfedd wlad. Os estynir y ffordd haiarn sydd genym yn barod o Borth Madryn i'r dyffryn hwn-os estynir hon yn mlaen dros