Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwasanaeth eu hunain, oddieithr eu bod yn cael gwerthu ychydig i'r aur—gloddwyr sydd gerllaw. Y maent yn cadw gwartheg a defaid, ac yn gwneud ymenyn a chaws, ac ar dymhorau ant a'r cynyrchion hyn, yn nghyda chrwyn a gwlan i lawr i'r Camwy, i'w rhoddi yn gyfnewid am ddefnyddiau dillad a groceries. Fel hyn y mae y Sefydlwyr hyn yn byw—mewn unigedd y mae yn wir, ond yn nodweddiadol o Gymry, yn byw yn heddychol, ac yn meddu eu Hysgol Sul, a'u Cyrddau Gweddi. Yr ydym yn credu fod dyfodol ardderchog o flaen y Sefydlwyr hyn, am eu bod drwy sefydlu fel hyn yn ddigon buan, wedi d'od i feddiant o diroedd eang, ag sydd yn sicr o ddyfod gydag amser, a hyny cyn hir iawn, yn werth mawr iawn. Y mae rhagolygon gobeithiol o flaen holl ddyffrynoedd a thiroedd godre yr Andes yn gyffredinol, yn enwedig os profa y gwahanol fwnau yn llwyddianus. Y mae y dydd yn d'od pan y bydd tiriogaeth y Camwy yn rhifo ei degau o filoedd o boblogaeth, a'n dymuniad yw y bydd i genedl y Cymry fod yn ddigon anturiaethus i gymeryd meddiant llwyr o'r lle."

PENNOD XXXII.—INDIAID PATAGONIA.

Y mae yma dri dosbarth o Indiaid—Indiaid y De, y Gorllewin, a'r Gogledd. Y mae Indiaid Deheudir y wlad yn ddynion mawrion, yn dal ac yn llydain. Indiaid y Gogledd yn llydain ac yn dewion, ond heb fod mor daled a rhai y De. Nid yw Indiaid y Gorllewin ond dynion bychain fel rheol, heb fod yn dal nac yn llydain—dynion bychain bywiog. Melynwyn yw eu lliw, yn debyg i liw hufen goleu. Y mae eu crwyn yn edrych yn seimlyd, eu gwallt yn ddu ac yn ei adael i dyfu yn hir, ac yn ei ranu ar y talcen, a'i godi i fyny i gopa y pen, ac yna ei rwymo gyda neisied, neu rwymyn. Nid ydynt yn cadw barfau. Nid eillio y maent, ond yn tynu y blew â pinsiwr bychan. Nid oes fawr wahaniaeth i'w weled rhwng gwyneb a gwisg y merched a'r bechgyn, a'r dynion a'r gwragedd. Yr hen wisg, cyn iddynt ddechreu cymysgu â dynion gwaraidd, oedd mantell o groen—mantell fawr fel cwilt gwely, a hono yn cuddio y corff i gyd, o'r coryn i'r sawdl. O grwyn gwahanol greaduriaid gwylltion y