Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

maent yn gwneud y mantelli hyn. Y maent yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf wedi dyfod i ddefnyddio peisiau a chrysau cotwm, ac ambell i un yn d'od i wisgo dillad fel chwi a minau; ond yr hen wisg oedd y fantell groen, dim het, dim hosanau nac esgidiau, dim ond y fantell ar y croen noeth, a math o rwymyn weithiau wedi ei wau o wlan, ac weithiau wedi ei wneud o groen, yn ei dal am danynt.

Yr ydym yn darllen yn y Beibl am Elias yn gwisgo mantell flewog o groen, a gwregys croen am ei lwynau; a gwisg felly oedd gan Ioan Fedyddiwr, onide? Wedi i'r Indiaid ddyfod i fysg dynion gwaraidd, a gweled esgidiau, daethant i ganfod eu bod yn bethau defnyddiol iawn, yn enwedig i farchogaeth trwy goed a drain. Ac yn ddiweddar y maent wedi myned i wneud math o fotasau tebyg i hosanau. Gwnant y rhai hyn o grwyn coesau ol ceffylau. Tynant y croen i ffwrdd oddiar y glin, fel y tynir hosan, nes bo y tu chwith allan, trwy ddechreu yn môn y glin, a d'od i lawr i feinder y goes. Feliy y mae gar y ceffyl yn ffurfio sawdl—y goes yn gwneud y traed, a'r glin yn gwneud coes y fotasen, a hono yn d'od i fyny fel hosan hir dros y pen lin, ac yn cael ei rhwymo yno gyda charai o groen. Y mae eisieu i chwi gofio fod yr Indiaid yn fedrus iawn i ystwytho pob math o grwyn. Y mae crwyn y fantell a'r esgidiau mor ystwyth nes ydynt fel maneg. Y mae y gwregys croen wedi tynu y blew ymaith, a'i wneud mor ystwyth a rhwymyn plentyn bach. Tynir y blew weithiau oddiar y botasau, ac ystwythir hwy nes y byddant fel hosan wlan. Bryd arall gadewir y blew heb eu tynu, i fod yn gynhesrwydd yr ochr fewn.

Ei Dull o Fyw.—Er's rhai canoedd o flynyddoedd yn ol nid oedd gan yr Indiaid hyn ddim un creadur dof yn meddiant ac at eu gwasanaeth. Teithient ar eu traed ar hyd glan y môr, a bywient ar bysgod bychain a gaent mewn cregyn. Bob yn dipyn daethant i arfer bwa saeth, a chymerent ddarn miniog o ffint neu gareg dân i'w roddi flaen y saeth ac felly daethant i allu lladd am bell greadur gwyllt ar y paith neu y diffaethwch. Daethant hefyd i weithio y ceryg celyd hyn ar lun picell, a rhoddent hwynt ar flaen ffon hir cyhyd a gwialen bysgota. Defnyddient y ceryg llymion hyn hefyd yn lle cyllyll, ac