Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd gwnaent hwy ar lun bwyeill i naddu coed. Mae rhywun yn barod i ofyn,—Pa fodd y daethant i wybod sut i wneud bwa saeth, picell, cyllell, a bwyell? Yr ydych wedi bod yn darllen, mae'n debyg, am rai hen genedloedd yn arfer bwa saethau. Sonir yn y Beibl oni wneir am fwa saethau. Sonir am dynu yn y bwa, a sonir hefyd am gawell saethau, ac am saeth lem. Byddai yr hen Gymry yn arfer y bwa saeth, ac y mae yn bur debyg mai un o arfau rhyfel cyntaf braidd bob cenedl yn ei sefyllfa anwaraidd oedd y bwa saeth. Am yr arfau ereill, mae'n debyg mai dyfod o hyd iddynt a wnaethant yn awr ac yn y man ar lanau y môr, wedi eu colli o long neu longau wedi myned yn ddrylliau yn yr ystorm, ac yna yn cymeryd y rhai hyny yn batrwn i wneud rhai yr un fath a hwynt. Daethant bob yn dipyn i allu saethu creaduriaid gwylltion gyda bwa saeth, a chael cyfle ar ambell un arall gyda'r bicell. Dywedir eu bod yn llechu o'r golwg yn nghysgod llwyni ar ochr llwybrau y creaduriaid gwylltion, ac yn cael cyfle ar ambell i un felly trwy ruthro arnynt fel cath ar lygoden. Wedi i Ysbaen oresgyn neu orchfygu De America, danfonodd yr Eglwys Babaidd offeiriad allan i dreio gwareiddo a dysgu, a rhoi gwybodaeth am Iesu Grist i'r Indiaid hyn. Mae eisieu i ni gofio, er mai crefydd a llawer o ddrwg ynddi ydyw Pabyddiaeth, eto fod llawer o'r Pabyddion yn ddynion da. Ffurfiau eu crefydd sydd yn ddrwg, ac yn rhoi mantais i bobl ddrwg gamddefnyddio crefydd; ond y maent yn credu yn yr un Duw a ninau, ac yn credu yn Iesu Grist fel ninau. Ond y maent yn credu gormod mewn dynion wedi meirw, ac mewn llawer o ddynion sydd yn fyw yn awr. Ond fel y dywedasom o'r blaen, mae yn eu mysg lawer o ddynion da. Yr oedd er's canoedd o flynyddoedd yn ol rai felly. Aeth llawer o honynt allan o'u gwlad gan adael eu teuluoedd a'u cysuron, a myned i anialdiroedd i dreio rhoi gwybod. aeth am Iesu Grist i'r Indiaid tlodion ac anwybodus hyn. Chwareu teg iddynt, onide? Mae peth fel hyn yn debyg iawn i Iesu Grist. Daethai y bobl hyn ac anifeiliaid dofion allan gyda hwynt, sef gwartheg, ceffylau, defaid, a geifr. Daeth yr Indiaid yn fuan i weled gwerth ceffylau, a daethant yn fuan i'w marchogaeth. Yr oedd hyn yn welliant mawr rhagor cerdded ar eu traed ar hyd a lled