Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr anialwch, a daethant hefyd i ddeall cyn hir fod ambell i geffyl mor gyflymed a'r cyflymaf o'r creaduriaid gwylltion.

Fe allai y byddai yn well i mi cyn myned yn mhellach ddweyd gair wrthych chwi am y gwahanol greaduriaid gwylltion sydd yn Patagonia. Mae acw dri bwystfil ysglyfaethus, sef y llew, y gath wyllt, a'r llwynog. Yr anifeiliaid ydynt, y gwanaco, yr estrys, a'r ysgyfarnog, ac hefyd amryw fan greaduriaid. Rhyw fath o ddafad fawr a gwlan melyn arni yw y gwanaco, o dylwyth y camel. Mae o faintioli asyn bychan, corff bychan a choesau hirion, pen bychan a gwddf hir, llygaid mawrion a chlustiau hirion. Maent yn gallu gweled yn mhell, a rhedeg yn gyflym iawn, ac yn gallu dal i redeg yn gyflym am oriau lawer. Yr ydych yn gyfarwydd a gweled llun yr estrys, ond nid yw estrysod Patagonia mor fawrion a'r estrysod y sonia y Beibl am danynt. Maent hwythau yn gallu rhedeg yn gyflym iawn. Y mae iddynt adenydd, ond nis gallant ehedeg; ond y mae eu hadenydd yn gynorthwy iddynt redeg pan y byddont yn myned yr un ffordd a'r gwynt. Ni raid i mi fanylu wrth y darllenwyr am yr ysgyfarnog na'r creaduriaid bychain ereill. Y mae yr ysgyfarnog yn llawer mwy nag un Prydain, ac am y creaduriaid bychain, mae rhai o honynt yn ddiniwaid, ac ereill yn filain iawn. Wedi i'r Indiaid gael ceffylau, ni welir mo honynt byth yn cerdded— pawb yn marchogaeth, yn wyr, gwragedd, a phlant. Gwnant ryw fath o gyfrwyau eu hunain o goed, a dodant yr estyll yn nghyd gyda chareiau o groen. Y mae eu cyfrwyau yn debyg i'r cyfrwyau coed a arferid yn Nghymru er's llawer dydd i gario pynau i'r felin gan ffermwyr, ond eu bod yn llai o faint. Maent hefyd yn gwneud math o glustogau o frwyn a gwlan wedi eu rhwymo i fyny mewn croen gwanaco, neu groen dafad; a chylymant y rhai hyn ar gefn y ceffyl a math o linyn llydan ystwyth o groen. Wel, yr ydych erbyn hyn yn barod i ofyn,—Pa fath dai sydd gan yr Indiaid?

Tai yr Indiaid.—Gan mai crwydro o fan i fan y maent, a byw wrth hela creaduriaid gwylltion, nid oes ganddynt dai arosol yn un man. Y maent yn byw mewn pebyll fel y gelwir hwy yn y Beibl—rhywbeth yn debyg fel yr oedd yr Israeliaid yn yr anialwch. Y mae y babell yn