Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael ei gwneud o bolion coed, a'r rhai hyny yn cael eu toi â chrwyn gwanacod. Y mae yn gwnio y crwyn wrth eu gilydd nes cael dernyn mawr o groen gymaint a phe gwniech dri neu bedwar o gwiltiau gwely wrth eu gilydd. Y mae gan bob teulu, fel rheol, ei dy neu ei babell ei hun, ond y mae yn dygwydd weithiau fod ychwaneg nag un teulu yn yr un babell. Pan yn symud o fan i fan, tynant y tô i lawr, a phlygant ef yn blygion fel y gallont ei roddi i'w gario ar gefn ceffyl. Yna tynant y polion o'r ddaear a chylymant hwy yn fwndeli â chareiau o groen, a rhoddant ddau fwndel ar un ceffyl, un bob ochr iddo. Eu dillad gwely ydynt fath o wrthbanau breision o'u gwaith eu hunain, a chrwyn gwanacod heb dynu y gwlân oddiarnynt. Gwnant hefyd fatresi o frwyn a gwlân i orwedd arnynt.

Eu dodrefn.—Nid oes ganddynt, fel y gallech feddwl. ddodrefn fel sydd gyda ni yma. Nid oes ganddynt fwrdd, na chadair, nac ystol, na chwbwrdd, na chest of drawers, na dim o'r fath. Ni oes ganddynt ychwaith lestri fel sydd genym ni. Yn yr hen amser, yr oeddynt yn gwneud cwpanau o geryg wedi eu cafnu trwy eu curo â darn o haiarn. Gwnant hefyd blatiau o geryg. Gan mai cig yw eu prif ymborth, nid oes arnynt angen am lawer o lestri. Y mae yna ryw fachgen bach bywiog yn darllen y llinellau hyn, ac yn meddwl a oes ganddynt dan, a sut y maent yn cyneu tân. A ganddynt matches? Oes, y mae ganddynt dân, ond nid oes ganddynt matches. Y ffordd y maent yn cyneu tân ydyw trwy rwbio dau bren helyg ir yn eu gilydd nes y byddont yn cyneu. Gwnant eu tân ar y ddaear tu allan i'r babell, neu y tu fewn os bydd yn wlaw, yr hyn nid yw yn dygwydd yn aml, am mai gwlad sych debyg i wlad yr Aifft ydyw Patagonia. Wedi cyneu tân mawr o goed, torant ddarn o gig estrys, neu gig gwanaco, a holltant ef yn deneu, ac yna chwiliant am bren gyda fforch ynddo, a dodant y darn cig ar y fforch, a rhodd— ant y pen arall iddi yn y ddaear yn ymyl y tân, ac yna bydd y cig yn gogwyddo ychydig tua'r tân, ac felly y rhostiant ef. Brydiau ereill rhoddant y dernyn cig ar y marwor noeth i rostio. Wedi i'r cig rostio digon, yna eistedda y teulu i gyd ar eu sodlau, neu ar y ddaear, yn gylch oddeutu y fforch a'r cig, a bydd pob un mewn