Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oed yn bwyta gyda'i law a'i gyllell, ac yn tori darnau i ddwylaw y plant. Gwelsom cyn hyn ambell i deulu mewn lle mynyddig yn y wlad, a'r plant yn bwyta tatws a chig moch, neu datws ac ysgaden gyda'u dwylaw, heb na chyllell na forch. Wedi i'r Indiaid ddyfod yn ddiweddar i gyffyrddiad â dynion gwynion gwaraidd, a chael ambell saucepan a chrochan, y maent yn berwi eu cig ambell waith, ond fel rheol ei rostio y maent. Gwnant botelau mawrion o groen i gadw saim ac i gario dwfr pan yn teithio trwy leoedd sychion. Pan yn cael tipyn o wenith yn rhywle, malant ef trwy ei roddi mewn cwpan careg, ac yna ei guro â chareg arall, yn debyg fel y gwelsoch y druggist yn malu gwahanol bowdrau. Wedi ei falu, cymysgant y blawd mewn dwfr, a gwnant deisen groew o hono, a rhoddant hono yn nghanol lludw poeth i'w chrasu. Ai nid coginiaeth debyg i hyn oedd gan y patriarchiaid, tybed? Y mae y darllenydd yn cofio am Abram yn gwneud croesaw i'r dynion dyeithr hyny er's llawer dydd, y rhai a drodd allan i fod yn angylion. Y mae Abram yn lladd myn neu oen yr afr, ac yn ei goginio, ac y mae Sarah yn tylino teisen, ac yn ei phobi, ac y mae y pryd yn barod yn y fan.

Moddion eu cynaliaeth.—Bu adeg ar yr Indiaid hyn pryd y gellid dweyd am danynt fel y dywedir am adar y to a'r brain,—nid oeddynt nac yn llafurio nac yn nyddu, a gellir dweyd hyny eto bron yn hollol am y dynion, canys nid ydynt yn llafurio y tir o gwbl. Moddion eu cynaliaeth ydyw helwriaeth. Y maent yn dal yr estrysod a'r gwanacod, a'r mân greaduriaid ereill, ac yn bwyta eu cig, ac yn gwneud math o fantelli o'r crwyn, ac yn gwerthu pluf yr estrysod i wneud brushes i fod mewn tai pobl fawr, ac yn siopau dillad y trefi a'r dinasoedd mawrion. Defnyddiant wlan y gwanacod i wneud math o wrthbanau, megys y dywedasom o'r blaen, i'w defnyddio yn ddillad gwely, ac i'w defnyddio o dan eu cyfrwyau coed ar gefnau eu ceffylau, ac y maent yn gwerthu canoedd o honynt i'w rhoddi o dan y cyfrwyau. Y mae ganddynt droell fach o'u heiddo eu hunain i nyddu eu gwlan wedi iddynt ei chwalu â'u dwylaw. Ar ol gwneud yr edafedd, y maent yn ei roddi bob yn edefyn ar fath o ffram goed, tebyg i'r ffram