Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Camwy yn 1867 yn camliwio Mr. Jones yn y peth hwn. Y mae yn wir fod Mr. Jones yn llwyr gredu, yn ol tystiolaeth y Brwyadaeth, y buasai y cytundeb yn cael ei wneud, ond eto ni addawyd i neb o'r ymfudwyr ond yr 124 erwau ag oedd deddf 1862 wedi ei sicrhau, heblaw addewid Dr. Rawson am nifer o wartheg a cheffylau, badyd, ac ychydig offerynau amaethyddol, canys yr oedd ysgrifenydd yr hanes hwn yn un o'r fintai gyntaf, ac felly yn un o'r rhai oedd yn cael yr addewidion, ac yn gorphwys ei ddyfodol arnynt mor belled ag yr oedd y dynol yn myned. Os oedd bai yn bod yn rhywle, ar y dirprwywr, Mr. Lewis Jones, yn benaf yr oedd, ond pan gofiom mai dyn icuanc dibrofiad mewn gwleidyddiaeth gwledydd newyddion ydoedd, ac yn ddyn o dueddfryd obeithiol, ac heb un gallu i weled anhawsderau nes myned iddynt, y mae yn hawdd i ni basio heibio ei or hyder a'i areithiau swynol. Y mae yn iawn i mi sylwi yn y fan hon hefyd i'r Llywodraeth ymddwyn yn mhell tu hwnt i lythyren ei chyfraith, mewn haelfrydedd i'r dyfudwyr. Er nad oedd cyfraith 1862 yn addaw dim ond tir yn unig, eto cafwyd anifeiliaid, bwyd, a badyd ddeng waith mwy nag a addawyd yn Nghymru, a mwy nag a ddysgwyliodd hyd yn nod y rhai mwyaf brwdfrydig ac eithafol eu gobeithion, fel na ddyoddefodd neb o herwydd cael eu siomi yn yr addewidion a roddwyd, ond o herwydd oediad pethau, a hyny yn codi o safle anghysbell y lle.