Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd gan ein gwragedd ni i wneud cwiltiau, ac yna y maent yn gweithio y gwrthban yn debyg fel y plethir basged â'r llaw gyda math o nodwydd bren fawr. Neu, efallai y deallai y merched yn well pe dywedwn eu bod yn gwneud y gwrthbanau hyn yn debyg fel y mae y mamau yn trwsio hosanau. Y maent yn gwneud y mantelli y buom yn son am danynt o grwyn gwanacod bychain tua phythefros oed. Gwnant rai ereill o grwyn estrysod a mân—greaduriaid ereill. Y mae oddeutu 18 o grwyn yn un o'r mantelli hyn, ac weithiau fwy. Y maent yn gwerthu llawer o'r crwyn neu y mantelli hyn am bris uchel, ac yn prynu yn ddiweddar ddefnyddiau cotwm a gwahanol ddefnyddiau bwydydd am danynt. Y dynion sydd yn hela, a'r merched a'r gwragedd yn gwneud y mantelli a'r gwrthbanau. Yn wir, y merched sydd yn gweithio galetaf, am mai arnynt hwy y mae gofal casglu tânwydd, coginio, codi y babell a'i thynu i lawr, heblaw llawer o ofalon ereill perthynol i famau.

Yr Indiaid yn Hela.—Cyn dechreu eu desgrifio yn hela, byddai yn well i mi ddweyd gair wrthych am eu gêr, eu taclau, a'u cyfryngau hela. Y cyfrwng pwysicaf oll yn nglyn a'r hela ydyw y ceffyl. Y mae gan lwyth o Indiaid o 60 i 80 o eneidiau, oddeutu 500 o geffylau— hyny yw o bob math, rhwng ceffylau, cesyg, ac ebolion bach. Nid ydynt yn arfer marchogaeth ond ychydig ar y cesyg, cadwant hwy yn unig i fagu. Y mae gan bob Indiad o 17 i fyny un neu ychwaneg o geffylau hela, yn cael eu cadw i ddim ond hyny. Y mae ganddynt hefyd geffylau y rhai hynaf a thrymaf yn gyffredin—i gario eu clud o wersyll i wersyll. Gelwir hwynt yn gludwyr, neu yn yr Yspaenaeg, yr hon a arferir ganddynt hwy, yn cargeros, ond y mae y ceffylau goreu, mwyaf dinam—y rhai cyflymaf yn cael eu cadw at hela.

Y cyfrwng nesaf at y ceffyl mewn pwysigrwydd ydyw y ci. Y mae ganddynt lawer iawn o gwn, rhai go dda, a llawer o rai diwerth. Rhyw gymysg breed yw eu cwn, o'r mastiff a'r greyhound at y ci defaid cyffredin. Offeryn pwysig iawn yn nglyn a mater yr hela ydyw y bolas, neu fath o belen wedi ei gwneud o geryg, plwm, haiarn, neu ryw fetel caled arall; gorchuddir y defnydd caled â chroen gwlyb, a rhoddir llinyn trwyddo i'w gyrchu yn