Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghyd fel y byddai hen bobl yn cyrchu eu pyrsaul, neu fel a roddir ar lawes plentyn bach. Rhoddir tri llinyn main, wedi eu gwneud o ewynau coesau estrysod, wedi eu plethu fel y plethir chwip; rhoddir y tri llinyn hyn wrth y belen, a chydir hwynt yn nghyd trwy fath o blethglwm. Y mae y llinynau hyn ychydig dros lathen o hyd bob un. Y mae gan bob heliwr ddau neu dri phar o'r rhai hyn, ac weithiau fwy, ac wedi eu dodi o gylch ei ganol. Pan yn hela y mae yn gafael yn un belen, ac yn gadael i'r ddwy arall swingio, a thry hwynt oddeutu ei ben nes bydd en swing wedi casglu nerth, ac yna teifl hwynt nerth ei fraich am draed ol y creadur fyddo yn rhedeg o'i flaen: ac os bydd yn lwcus yn ei dafliad, cylyma y ddwy goes yn dyn wrth eu gilydd, a magla y creadur nes y syrthia i lawr. Pan yn taflu y bolas, bydd y ceffyl yn rhedeg mor gynted ag y medr chwip o'r fath oreu wneud iddo fyned. Teflir y belen o 60 i 100 llath o bellder fel rheol. Y mae mewn hela yn fedrus dipyn o gelfyddyd. Ceisiwn yn awr roddi desgrifiad o nifer o'r Indiaid yn hela ar y paith neu ddiffaethwch uchel Patagonia. A deg neu bymtheg o Indiaid allan ar brydnawn. Teithiant bump neu chwe milldir o'r man y byddont yn gwersyllu. Wrth fyned yn hamddenol, feallai y dalient gwpl o estrysod neu ysgyfarnogod, ac yna chwiliant am le porfaog i gael bwyd, i'r ceffylau, a lle y bydd ychydig ddwfr iddynt hwy a'u hanifeiliaid. Tynant i fawr eu beichiau cig, os bydd peth, a'u cyfrwyau ; rhoddant garcharau am draed y ceffylau, rhag iddynt fyned i grwydro yn mhell yn y nos, yna torant gig i'r cwn; cyneuant dân coed, a rhostiant arno gig iddynt eu hunain, yfant ddwfr, taenant eu gwrthbanau ar y ddaear. o dan gysgod llwyn, a gorweddant a chysgant hyd y boreu, wedi iddynt yn gyntaf gael mygyn neu ddau. Breuddwydiant, feallai, am yr hela, a gwelant rai yn dal, ac ereill yn methu. Gyda'r wawr bore dranoeth, dacw golofn o fwg yn dyrchafu o'r gwersyll. Y mae pawb wedi codi, a phob un yn ymofyn ei geffyl, ac yn rhoi dwfr iddo, ac yna yn ei gyfrwyo. Yfant gwpanaid o mati, neu fath o dê yn dwym, torant ddarnau o gig i'r cwn, mygyn neu ddau, ac yna dyna bob peth yn barod. Y mae gan bob un gyllell fawr yn ei wregys, dau neu dri phar o bolas, dau neu dri o gwn, a dacw bob