Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un ar gefn ei geffyl. Safant yn gylch. Penodant bointer neu ddau i arwain y cylch sydd i'w wneud. Cymerant, dywedwn, ddwy filldir o led, wrth bump neu chwech o hyd. A dau yn mlaen-y ddau bointer-un bob ochr i'r ddwy filldir o led; ant ar garlam fach, gyda dau neu dri o gŵn bob un. Dywedwn fod y fintai hela yn 14 o nifer. Dyna ddau wedi myn'd, ac yna â y ddau chwech ereill, bob yn un ac un, y naill ar ol y llall bob ochr, dim ond eu bod yn ngolwg eu gilydd, ac yn cau y cylch o'r tu ol. Y mae gan bob un geffyl, nifer o gwn, bolas, chwip, ac yspardyn. Dyna nhw yn awr wedi ffurfio cylch hirgrwn, canys y mae y ddau flaenaf erbyn hyn wedi troipen ar y cylch yn y fan draw, yn ngolwg eu gilydd, ac yn troi yn eu holau. O fewn y cylch yna, os yn lwcus, bydd degau, fe all ugeiniau, o greaduriaid gwylltion, yn cynwys gwnacod, estrysod, ac ysgyfarnogod, ac feallai Buma neu ddau (Llew Patagonia). Mae yr helwyr yn eu gweled ac yn nesi yn nes at eu gilydd nes y mae y creaduriaid yn teimlo eu bod yn myned yn gyfyng arnynt ac am ddianc allan. Wedi cael arwydd gan y pointers, mae pob un a'i wn, a'i geffyl, a'i bolas, yn ymosod arnynt. Dacw ddau neu dri o gwn yn ngafael y gwanaces, ac i lawr a hi, dyna un arall yn y fan acw, ac yn y fan yna dacw haner dwsin o folas yn saethu trwy'r awyr, a dacw estrys wedi ei faglu, ac un arall, ac un arall, a gwanaces yn y fan acw. Dyna'r marchogwyr oddiar eu ceffylau, a'u cyllyll o'r waen, a dacw laddfa fawr. Y mae yna rhai wedi rhedeg allan o'r cylch ar ol rhyw greadur neu gilydd, bob yn dipyn maent hwythau yn dod yn ol, rhai wedi dal, ac ereill wedi methu, Rhoddir y cig i gyd gyda'u gilydd, canys nid yw eto yn eiddo neb mwy na'u gilydd. Torant ef i fyny yn ddarnau mawrion yn y croen, a rhanant ef mor gyfartal ag sydd modd, ac yna ca pob un ei ran trwy goelbren. Y mae pob un yn cael rhan pa un bynag a fydd wedi dal neu beidio. Rhoddir ychydig ychwaneg o rhan i'r Casice neu lywydd y llwyth, ac i ambell i un fyddo a cheffyl da neu gwn da, neu yn fwy medrus gyda'i folas. Y dyn galluog, medrus, fel rheol, sydd yn dod yn mlaen yn myd bach yr Indiaid fel yn mhob man arall. Os byddant wedi cael llwyddiant yn y cylch cyntaf, troant adref bob un gyda'i faich yn llawen, ac os na lwyddant,