Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddynion diwair, a chymer y rhieni ofal mawr am eu merched. Ac am eu bywyd teuluaidd, y mae yn cael ei nodweddu gan deimladau da a heddwch. Nid oes yn eu plith enghreifftiau o wyr yn curo eu gwragedd, ac ni chlywir terfysg nwydau drwg yn eu pabellau.

Marw a Chladdu.—Mae yr Indiaid fel rheol yn ddynion pur iach, ond fel y maent yn d'od i gyffyrddiad â gwariddiad a chael gwirodydd meddwol, y mae llawer o honynt wrth yfed gwirodydd meddwol yn cael anwyd, a gwelir yn ddiweddar, yma ac acw, Indiad yn y darfodedigaeth. Mae yna glefyd arall pur dueddol iddynt, ac feallai yn glefyd arbenig perthynol iddynt hwy, sef math fol—rwymedd. Mae y plant yn bur dueddol iddo, ac mae yn cael ei achosi, feallai, gan fwyta gormod o gig, a hwnw ddim yn cael ei goginio yn briodol. Ni chlywais Indiad erioed yn cwyno am y ddanodd, nac am grydcymalau. Eto, mae yr Indiad fel pawb ereill, ag iddynt amser terfynedig ar y ddaear. Gosodwyd i Indiad farw, ac wedi hyny bod barn, fel pob dyn arall. Pan fo Indiad yn sal, neu mewn afiechyd, y mae y perthynasau yn garedig yn gwneud eu goreu i dreio ei wella, ond pan welant nad oes dim gobaith am dano, a'i fod bron tynu yr anadl ddiweddaf, cymerant gadach ystwyth o sidan neu rhyw ddefnydd arall, a gwasgant ef ar ei ffroenau ai safn i'w rwystro i anadlu, mewn gwirionedd mygir ef. Ni ddaethum erioed i wybod i sicrwydd pa'm y gwnant hyn, ond fy nghred yw, mai rhag i'r aelodau oeri gormod, os gadewir iddo farw yn raddol fel nad allant eu trafod cystal. Yr arferiad yw, mor gynted ag yr â yr anadl o hono, plygir y coesau ar yn ol yn y pen glun, a gwasgir y pen a'r frest i lawr at y gliniau nes yw y corff yn rhyw dalp crwn debyg i lab o wellt, ac yna rhwymir ef a chareiau ystwyth o groen er ei gadw yn y ffurf hon nes iddo oeri. Rhoddir y ffurf hwn i'r corff, mae yn bur debyg, am ei fod fel hyn yn cadw llai o le, ac felly yn haws ei gladdu i ddynion nad oes ganddynt arfau pwrpasol at dori beddau fel sydd genym ni. Mor gynted ag y gorphenir gyda'r corff, ceir gweled un neu ychwaneg o'r dynion yn anarchogaeth ymaith i'r paith i gasglu yn nghyd at y gwersyll holl geffylau a chesyg yr ymadawedig. Os bydd yn ddyn cyfoethog, bydd ganddo luaws mawr o honynt. Delir hwy bob yn un ac yn un, a rhoddir cwlwm rhedeg