Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar raffau, un o bob tu am ei wddf, ac yna bydd nifer o ddynion cryfion yn tynu yn groes i'w gilydd nes ei dagu, a syrthia i lawr yn farw, ac felly y gwneir a phob un y naill ar ol y llall, nes eu lladd oll. Wedi hyny, leddir ei gwn trwy eu taro ar eu penau nes y byddant feirw. Torir y ceffylau ieuengaf a'r cesyg i fyny yn ddarnau, a rhenir hwynt i'r cymydogion, a rhoddir y gweddill i'r cwn.

Wedi hyny, cyneuir tân coed mawr a chesglir holl eiddo llosgadwy yr ymadawedig—ei gêr marchogaeth a hela, ac hyd y nod ei babell, a llosgir y cyfan yn lludw; pob peth nad oedd yn llosgadwy, teflir ef i'r dwfr neu i ryw le o'r neilldu o'r golwg. Wedi gwneud y difrod hyn ar bethau bydd yn rhaid i'r teulu fydd ar ol, os bydd teulu hefyd, fyned ati ar unwaith i osod pabell fechan iddynt eu hunain. Tra bydd y dynion yn cario yn mlaen y lladd a'r llosgi y buom yn son am dano, bydd y gwragedd henaf yn myned trwy ddefod o alaru. Mae y galaru yn ddefod yn mysg yr Indiaid fel yn mysg y Dwyreinwyr. Mae genym hanes yn y Beibl am bobl yn cadw galar mawr, ac am alarwyr. Dynion yn cael eu talu am alarnadu. Yr oedd y galarwyr wedi dyfod i mewn i dy Jairus cyn i'r Gwaredwr gyrhaedd, ac wedi dechreu ar eu gwaith. Bydd y gwragedd hyn, yn enwedig y perthynasau, yn tori eu gwalltau yn fyr o gylch eu penau nes bydd fel bargod to gwellt. Byddant hefyd yn cymeryd darnau o wydr neu rywbeth miniog arall ac yn tori eu gwynebau, nes y bydd y gwaed yn llifo nes gwneud rhychiau ar hyd eu gwynebau, ac weithiau byddant yn lliwio eu gwynebau. Maent bron yn llythyrenol fel y dysgrifia y Beibl drigolion Canaan, ac y gwahardda cenedl Israel i'w hefelychu. Darllener Lefiticus xix. 27—18, ac os troir i Feibl a chyfeiriadau ynddo, ceir gweled fod cyfeiriad at yr un arferiad yn Deuteronomium, Esiah, a Jeremiah, os nad mewn manau ereill. Mae yr arferion a'r defodau tebyg hyn yn myned yn bell i brofi mai teithio wnaeth yr hil ddynol o'r Dwyrain i wahanol wledydd y ddaear, ac mai

"Brodyr o'r un bru ydym (ar y cyntaf)
Yn Adda un oeddym,
Ni gyd oll un gwaed y'm,
Un cnawd, ac anadi, ac un Duw genym."