Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae ganddynt dri gair bach i'w canu wrth alarnadu— "Ga-la-le." Maent yn canu y rhai hyn mewn ton leddf hirllais, ac yn eu hail adrodd drosodd drachefn trwy gydol y dydd, ac weithiau am ddyddiau lawer. Ni ddaethum erioed i ddeall beth oedd ystyr y geiriau hyn. Yr oeddynt yn dawedog iawn yn nglyn a'u defodau. Byddai y galar-wragedd hyn yn cerdded oddeutu y gwersyll, ac yn galarnadu tra y byddai y dynion yn casglu y pethau, ac yn eu taflu yn dyner i'r tân, ond ni byddai yr hen chwiorydd hyn yn rhy drwm eu calonau i gipio ambell i beth o'r tân a'u daro o tan eu hugan, os gallent wneud hyny heb i neb o'r perhynasau eu gweled, ac y mae yn bur debyg eu bod yn deall eu gilydd yn aml. Yr un yw y natur ddynol yn mhob gwlad a chenedl a than bob amgylchiad. Mae rhyw rai yn mhob man yn treio gwneud tipyn o broffit hyd y nod ar ddyfodiad angeu i deulu. Claddent y corff dranoeth wedi iddo farw; cedwir dillad yr ymadaw edig a lapir hwy am dano i'w gladdu. Rhoddir hefyd ei bibell a'i arian a beeds gydag ef yn y bedd. Cerir y corff wedi ei rwymo, fel y rhwymir pwn ar gefn ceffyl. Cleddir ef mewn twll crwn wedi ei dori â rhyw ddarn o haiarn ac a'r dwylaw; nid yn ddwfn ond fel y gallent guddio y corff.

Eu Crefydd.— Y mae Indiaid Patagonia yn credu mewn dau fôd anweledig—un da ac un drwg—Duw a diafol. Y maent yn talu mwy o sylw i'r bôd drwg nac i'r Bôd da. Dywedant nad oes angen gwneud fawr o helynt gyda'r Bod da, am, meddant, y mae efe yn rhy dda i wneud drwg i neb; ond am yr un drwg, y mae eisieu ei gadw ef yn foddlon, a bod mewn heddwch âg ef, rhag iddo wneud drwg iddynt. Y maent yn credu mai efe sydd yn ben a llywodraethwr ar ddrygau y byd. Y mae genymi le i gredu fod syniad tebyg yn y byd yn amser Job, ac onid yw y Testament Newydd yn rhoi lle i ni gredu mai efe yw tywysog byd yr anffodion, ond ei fod wrth gadwen gan Iesu Grist, fel nas gall wneud fel y myno. Beth bynag, creda Indiaid Patagonia mai y diafol yw "tad y drwg." Ni chefais i erioed allan yn glir beth yw eu haddoliad i'r Bod da neu i Dduw. Yr ydym wedi sylwi fod rhai o'u dynion goreu—y dynion mwyaf ystyriol—yn arfer syrthio ar eu hwynebau y peth