Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf yn y boreu, wedi iddynt godi, i gyfeiriad y dwyrain. Rhoddant gwrlid dros eu penau, a gorweddant felly yn llonydd am rai mynydau, a phan godant i fyny, edrychant yn sobr ac yn syn, fel dynion wedi bod yn dal cymundeb â mawrion bethau byd yr ysbrydol. A ydynt yn y dull hwn yn talu rhyw fath o warogaeth i'r haul, nis gwyddom, ond braidd na thybiem eu bod. Feallai eu bod yn ystyried yr haul yn fendith mor fawr, fel y tybiant feallai nad yw y Bod da ddim yn bell oddiwrtho. Fe ddywed y Beibl hefyd, "Goleuni yw Duw." Nis gwn am un ddefod arall o addoliad i'r Bod da o'u heiddo. Ond am y bod drwg, sef y diafol, y mae yn cael llawer iawn o sylw ganddynt. Y maent aberthu cesyg, ac yn offrymu yn fynych iddo ef. mae a fyno y lleuad hefyd rywbeth â'u haddoliad i'r un drwg. Byddant yn aberthu iddo ar y newydd loer. Onid yw yn ffaith fod holl genhedloedd y byd ar wahan i'r Datguddiad Dwyfol yn cysylltu eu haddoliad a'r haul a'r lleuad. Dywedir yn llyfr Job, "Os edrychais ar yr haul pan dywynai, neu pan godai, a'r lleuad yn cerdded yn ddysglaer;" dywedai gwr y Sunamees hono, " Paham yr ei di ato ef heddyw," gan nad yw hi na newydd loer na Sabbath." Darllener hefyd Deut. iv. 19; Jer. xliv. 17; Esa. viii. 16; a manau ereill. Byddant yn myned a chesyg i ben bryn neu fynydd i'w lladd, ac yna eu llosgi. Weithiau, byddant yn tynu calon y creadur allan, ac yn gwneud ryw seremoni gyda hi, ac yna yn ei llosgi. Y mae yr Indiaid yn credu mewn dewiniaeth a witsio, ac y maent yn credu fod y dynion hyn yn dal cymundeb â'r ysbryd drwg. Y mae eu syniad am witsio yn debyg iawn i syniad yr hen bobl yn Nghymru er's llawer dydd-rhyw hen fenyw hyllach na'i gilydd yw y wits bob amser. Y mae yn eu mysg hefyd gonsurwyr-dynion yn gallu dweyd dirgelion. Y mae y meddyg a'r consurwr, neu y dewin, yn yr un person, ac y mae y feddyginiaeth yn cynwys dewiniaeth yn gystal a rhyw gyffyr o'u heiddo hwy eu hunain. Onid fel hyn yr oedd hi yn Nghymru er's tua chan' mlynedd yn ol, a chyn hyn Pan y bydd afiechyd mewn teulu, bydd yr Indiaid yn credu fod a fyno y diafol ag ef, a bydd y gwragedd yn myned oddiamgylch y babell gyda'r padelli croen a'r clychau o'u deutu, ac yn gwneud swn