Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddarol er gyru yr ysbryd drwg i fwrdd, a bydd y dynion yr un pryd yn aberthu iddo. Y mae yr Indiaid hefyd yn credu mewn byd ar ol hwn. Y mae yn wir fod eu syniad am dano yn bur gynhenid a phaganaidd, ond y mae cnewyllyn y gwirionedd ganddynt, ond fod yna wisg faterol iawn am dano. Credant fod dynion pan yn marw yn myned drosodd i ryw fyd arall anweledig iddynt hwy, a'u bod yn byw yno yn bur debyg ag yr oeddynt yma cyn marw. Os bydd Indiad yn ddyn da, credant y caiff fyned i wlad dda am helwriaeth, lle y bydd cyflawnder o ysgyfarnogod, estrysod, a gwanacod i'w cael, ac na fydd yno ddim prinder, a dyfod yn ol heb ddal. Credant hefyd fod y ceffylau a'r cesyg, a'r cwn a laddwyd ddydd marwolaeth y dyn, yn myned drosodd i'r byd arall gydag ef, a'r holl bethau a losgwyd ac a daflwyd i'r dwfr, ac a roddwyd gydag ef yn y bedd.

Os bydd dyn yn un drwg, bydd hwnw yn myned i wlad wael, lom, ddiborfa, a dihelwriaeth, lle y bydd yn rhaid iddo deithio yn mhell trwy leoedd diffaith i dreio cael ei gynaliaeth, ac yn methu dal wedi yr holl deithio blin, ac mai byw i haner newynu y bydd. ac ar y goreu byw o'r llaw i'r geneu. Yr ydych yn gweled yn awr esboniad o'r lladd y ceffylau a'r cwn y buom yn son am danynt o'r blaen: Wel, dyma ni wedi rhoddi braslun o hanes Indiaid Patagonia. Y mae yn bur debyg eu bod ar un adeg yn genedl gref, ond y maent yn darfod yn gyflym trwy y naill ffordd a'r llall, ac yn fuan iawn ni bydd un o honynt. Diolchwn am i ni gael ein geni yn ngwlad y Beiblau a'r efengyl, a byddwn ofalus i fyw yn deilwng o'n breintiau.