Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu gwneud, codwyd cri mawr yn erbyn Patagonia fel lle i ymfudo iddo gan un a alwai ei hun yn "Garibaldi," yn y Drych ac yn yr Herald Cymraeg. Yr oedd y Drych yn cael ei gyhoeddi yn Utica, yr Unol Dalaethau, a'r Herald Cymraeg yn Nghaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn ddealledig y pryd hwnw, ac ni chlywais neb byth wed'yn yn ameu, mai golygydd y Drych, John William Jones, oedd yr hwn a alwai ei hun "Garibaldi." Yr adeg hono yr oedd Kansas, Nebraska, a Missouri yn weigion, a'r Americaniaid yn awyddus iawn i gael dynion allan i'w poblogi, ac y mae yn bur debyg—ac o ran hyny yn sicr —mai nid gofal am fan cymwys i Gymry i ymfudo iddo oedd mewn golwg gan "Garibaldi," ond cael sylw Cymru oddiwrth Patagonia at y Talaethau Unedig, ac yn enwedig at y manau uchod, am fod cael dynion allan iddynt yn dwyn elw i rywrai ag yr oedd "Garibaldi" mewn dealldwriaeth a hwynt. Gwnaeth y llythyrau hyny niwed enbyd i'r symudiad, trwy ddigaloni lluaws mawr. Yr oedd mantais fawr gan elynion y symudiad, am fod pob hanes oedd i'w gael y pryd hwnw mewn llyfrau ar ddaearyddiaeth yn rhoi anair i Patagonia, i'w thir, ac hefyd i'r Indiaid oedd yn byw yno ; yr unig lyfr oedd yn dweyd yn dda am dani oedd y South American Pilot, gan y Llyngesydd Fitzroy—llyfr nad oedd o hyd cyrhaedd pobl yn gyffredin. Creodd y drwgliwiadau a gyhoeddwyd lawer o waith ychwanegol i'r pwyllgor, ac yn benaf i'r Parch. M. D. Jones, Bala, er cadarnhau yr ymfudwyr oeddynt wedi rhoddi eu henwau i gychwyn yn yr "Horton Castle." Ond fel y bu yn fwyaf ffodus, methodd yr "Horton Castle" a chyraedd Lerpwl yn yr adeg yr oedd wedi ymrwymo i wneud, ac felly cafwyd ychwaneg o amser i ail gasglu enwau, gan i gytundeb y llong hon syrthio i'r llawr.

Wedi hyn cytunwyd am long arall o'r enw "Mimasa," yr hon oedd i fod yn barod i gychwyn allan yn Mai. Nid oedd y llong hon wedi ei gwneuthur i gario ymfudwyr, ac felly yr oedd gwaith mawr ei gwneud yn gymwys i hyny, a disgynodd y gwaith hwnw o ran ei ofal a'i gost ar y pwyllgor Gwladfaol, neu yn hytrach ar y Parch. M. D. Jones, Bala. Prynwyd coed, a chytunwyd â dynion cyfarwydd i osod yn y llong yr holl ddodrefn angenrheidiol