Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rheidiol i'r fordaith, ac ar ol glanio, nid oedd ganddynt ddim ar gyfer eu cynal yo Lerpwl i aros i'r llong fod yn barod, ac yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd yn rhaid iddynt droi i enill eu bywioliaeth, neu ynte i rywrai roddi arian a'u cadw yno yn ystod yr oediad. Disgynodd y gorchwyl costus a phoenus hwn eto ar y Parch. M. D. Jones, Bala, a mawr yr helynt a gafodd. Peth ofnadwy ydyw gosod dynion o ddiwylliad cyffredin i ddechreu dybynu ar ereill; nid oes byth foddloni arnynt. Felly yr oedd yn Lerpwl y pryd hwnw. Ni chafodd un bwrdd gwarcheidiol erioed y fath drafferth ag a gafodd y Parch. M. D. Jones, Bala, ac ychydig gyfeillion iddo oedd yn cynorthwyo y pryd hwnw.

Yr oedd cychwyn mintai y "Mimasa" yn wahanol iawn i gychwyn mintai o ymfudwyr cyffredin; nid yn unig yr oedd angen parotoadau ar gyfer mordaith hir, a glanio mewn lle anial, ond yr oeddid yn gorfod parotoi ar gyfer y sefydliad cyntaf mewn gwlad newydd oedd yn gwbl ar wahan i bob trefniadau cymdeithasol. Yr oedd yn rhaid ffurfio cnewyllyn cymdeithas, a Llywodraeth. I'r dyben hwn etholwyd yn Lerpwl o blith y fintai ymfudol trwy y tugel Gyngor o ddeuddeg, a llywydd, ysgrifenydd, a thrysorydd (Gwel yr atodiad). Dyma ni yn fintai o 153, o wahanol Siroedd Cymru, yn cael ein gwneud i fyny o'r ddau ryw, o bob math o oedran—o'r baban ychydig wythnosau oed hyd yr hen wr 60 oed—yn wyr, gwragedd, a phlant, a dynion sengl—dynion o bob math o alwedigaeth—y teiliwr, y crydd, y sadler, y saer coed a'r saer maen, y naddwr ceryg a'r gwneuthurwr priddfeini, y bwyd—nwyddwr a'r dilledydd, y fferyllydd a'r argraffydd, y meddyg, yr ysgolfeistr a'r pregethwr, yr amaethwr a'r bugail, y mwynwr a'r glowr—y crefyddwr a'r digrefydd, wedi dyfod o wahanol enwadau Cymru— dyma ni oll yn ymdoddi i'n gilydd er ein holl amrywiaeth i ffurfio un gymdeithas er sefydlu Gwladfa Gymreig.

IV.—Y CYCHWYN A'R FORDAITH.

Mai y 24ain, 1865, dyma ni oll yn barod i fyned i'r llong, a'r llong yn barod i ninau. Yn barod a ddywedasom? na choeliai fawr; nid oes modd bod yn barod, a