Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phe bussem heb gychwyn hyd y dydd heddyw, ni fuasai pawb yn barod. Nid oes modd cael mintai o ymfudwyr yn barod i gychwyn mordaith; y mae rhyw un wedi anghofio rhywbeth hyd y diwedd. Ond parod neu beidio, y mae eisieu i bob peth a phawb fyned i'r llong heno. Cyn cychwyn, yr oedd yn ofynol i bob un nad oedd wedi talu ei gludiad yn llawn i arwyddo Note of Hand i'r Parch. M. D. Jones am yr hyn oedd yn ddyledus arno, a bu cryn helynt i gael pob un yn barod ac yn gyfleus i wneud hyn. Bu y Parch. David Rhys, Talybont, yn awr o Gapel Mawr Mon, yn ffyddlon iawn i helpu dwyn y gorchwyl hwn oddiamgylch, yn nghyda llawer o ysgrifenu arall oedd yn angenrheidiol. Gwr arall oedd wedi cymeryd dyddordeb mawr yn ddiweddar yn y mudiad oedd y Parch. D. Ll. Jones, Ffestiniog, ond yn y Wladfa yn awr er's ugain mlynedd, a bu yntau o help mawr i'r Parch. M. D. Jones ar yr adeg hon. O'r diwedd, dyma ni oll ar y bwrdd, a phob un yn cael ei roddi yn ei le ei hun, mor bell ag y gallai doethineb ar y pryd drefnu. Cysgwyd y noson hono ar y bwrdd, a dyma y tro cyntaf i'r rhan luosocaf o honom i gysgu ar fwrdd llong, ond ni chyfodwyd yr angor y noson hono. Boreu dranoeth, Mai y 25ain, dyma ni yn barod i wneud rhyw fath o gychwyn. Yr oedd yno ganoedd o bobl ar y lan wedi crynhoi i'n gweled yn cychwyn. Canasom "Duw gadwo y Frenhines" ar eiriau Cymraeg pan yn barod i godi yr angor, a phan yr oedd y llong yn dechreu symud allan o'r porth, yr oedd amryw yn gollwng degrau yn bur ddiseremoni. Wedi symud ychydig, er mwyn, mae'n debyg, cael y bobl o gyrhaedd y lan, rhoddwyd yr angor i lawr, canys nid oedd pob peth yn barod eto—papyrau y llong a phethau felly ddim yn hollol orphenedig, ac felly y buom hyd brydnawn Sul, Mai yr 28ain, 1865. Am chwech o'r gloch prydnawn y dyddiad uchod, codwyd yr angor eto i beidio ei roddi i lawr mwyach hyd yn Mhorth Madryn——dau fis i'r dyddiad y cychwynasom. Cawsom fordaith dda a chysurus at ei gilydd, er nad oeddym yn meddwl hyny ar y pryd, am fod y rhan luosocaf o honom yn ddyeithr i deithio ar y môr; ond wedi cynefino a