Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEN. V.—Y GLANIAD A'R BYW YN PORTH MADRYN.

Glaniasom Gorphenaf yr 28ain, 1865. Y mae y darllenydd yn cofio i ni wneud cyfeiriad mewn penod arall at anfoniad allan y Meistri Lewis Jones, Lerpwl, ac Edwin C. Roberts, gynt o Wisconsin, i wneud y trefniadau yn orphenol yn Buenos Ayres. a phrynu lluniaeth, ac anifeiliaid, a threfnu yn Porth Madryn nifer o fythod i dderbyn y teuluoedd. Er ein mawr lawenydd pan aethom i fyny i ben uchaf y porthladd— i'r angorfa apwyntiedig, cawsom fod yn ddau negesydd yno—Mr Roberts ar y tir gyda'r anifeiliaid, a Mr Jones newydd ddyfod i mewn gyda'r ail lwyth, ac yno ar fwrdd y llong yn barod i'n derbyn; a phan y daeth mewn cwch i fwrdd ein llong, cafodd fanllefau lawer o hwre,' nes yr oedd y bryniau o bab tu yn diaspedain. Yr oedd Mr Roberts wedi adeiladu nifer fechan o fythynod coed ar y lan yn ymvl y mor, er cael ychydig gysgod i'r gwragedd a'r plant. Yr oedd Mr Roberts wedi bod yma am rai wythnosau cyn i ni lanio, ac wedi bod yno yn cael ei gynorthwyo gan nifer o haner Indiaid a ddaethai gydag ef o Patagones i fugeilio yr anifeiliaid, ac adeiladu y bythynod. Rhyw ddiwrnod pan oedd efe a'r dynion hyn oedd gydag ef yn cloddio ffynon i geisio cael dwfr croew, Mr Roberts yn y gwaelod yn cloddio, a'r dynion yn codi y pridd i fyny mewn tybiau, ymadawodd y bobl y noson hono heb godi Mr Roberts i fyny, ac yno y gorfu iddo fod hyd rhywbryd dranoeth, pryd y darfu iddynt ail feddwl, a'i godi oddiyno.

Prydnawa y dydd y glaniwyd, aeth dyn sengl o'r enw David Williams, brodor o Aberystwyth, am dro i fyny llethr bryn oedd yn codi oddiwrth y mor, er mwyn edrych beth a welai, ond ni ddychwelodd byth yn ol. Y tebygolrwydd ydyw iddo fyned dros y bryn, a cholli ei olwg ar y mor, a dyrysu, a cholli ei gyfeiriad, a theithio nes myned yn rhy wan, a marw o newyn. Cafwyd gweddillion o'i esgyrn, a rhanau o'i ddillad, yn nghyda darnau o bapyrau heb fod yn mhell o ddyffryn y Gamwy yn mhen llawer o flynyddau, a dygwyd hwynt i'w claddu yn mynwent y sefydliad. Yr oedd y ddau negesydd wedi sicrhau nifer o ychain arferol ar iau, ac fel yr oedd yn dygwydd, yr oedd gyda