Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ninau an dyn oedd wedi arfer a gweithio ychain, sef Mr Thomas Davies, o Aberdar, teulu yr hwn wedi hyny a ddaeth yn bwysig yn y sefydliad. Chwiliwyd am ddarn o'r tir hawddaf i weithio gerllaw y porthladd, a hauwyd ynddo wenith, heb wybod y pryd hwnw nad oedd yn y wlad ddigon o wlaw i'w egino, a'i ddwyn yn mlaen i berffaithrwydd. Fel hyn ni chollwyd dim amser, heb fod bron pawb yn gwneud rhyw beth. Rhai yn clirio y darn tir, ac yn gosod y drain a dynid yn fath o wrych mawr i gau y lle i mewn, rhag yr anifeiliaid, ereill yn bugeilio y gwartheg, y defaid, a'r ceffylau, ereill yn dechreu clirio y mângoed a'r draun, er dechreu ffordd rwydd o Borth Madryn i ddyffryn y Camwy. Yr ydym yn dweyd y pethau hyn er cywiro adroddiad Mr Ford, y Gweinidog Prydeinig yn Buenos Ayres ar y pryd. Yn yr adroddiad hwnw am 1867, dywed fod aflwyddiant y sefydlwyr y flwyddyn gyntaf i'w briodoli i'w segurdod yn Mhorth Madryn am wythnosau wedi glanio, yn nghyda'u anwybodaeth o amaethyddiaeth, ac felly adael yr had yn rhy agos i'r wyneb; ond y mae yn amlwg, heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. Gwna hefyd gyfeiriad at Guano, a'r ynysoedd oedd yn gyfleus i'r bobl ei weithio, a gwneud â'r iau mawr o hono, oni buasai eu diogi. Y mae yr adroddiadau hyn oll yn ffrwyth anwybodaeth o'r lle a'r amgylchiadau.

Cafwyd llawer o ddifyrwch y pryd hwn gyda'r gwartheg. Yr oeddid wedi prynuy gwartheg hyn yn Patagones. Nid oedd Yspaeniaid De Ameriea y pryd hyn yn gwneud nemawr arferiad o odro, a gwneud caws ac ymenyn, ond eadwent y gwartheg wrth y canoedd a'r miloedd ar y paith i fagu, a lladdent hwynt er mwyn eu crwyn a'u gwêr.

Felly yr oedd y gwartheg hyn yn hollol wylltion, gan nad oeddid byth yn ei bwydo, na'i dal, na neb byth yn myned yn agos atynt ond ar geffyl, ac nid wyf yn meddwl iddynt erioed weled gwraig o'r blaen. Coffa da am Mrs. Eleanor Davies priod Thomas Davies y soniasom o'r blaen am dano—dynes wedi cael ei magu ger llaw Aberteifi, ac wedi arfer a gwartheg ar hyd ei hoes. Un diwrnod aeth allan a phiser godro yn ei llaw ar fedr godro cwpl o'r gwartheg oedd a lloi ieuaine ganddynt. Cerddai ar eu holau